MANYLION.
  • Lleoliad: Llandudno,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £15,355 - £16,624 y flwyddyn (Llawn Amser: £26,824 - £28,142) (G04)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 28 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd â Gofal - Ysgol San Sior

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £15,355 - £16,624 y flwyddyn (Llawn Amser: £26,824 - £28,142) (G04)

Lleoliad gwaith: Ysgol San Sior

A ydych chi'n angerddol am fwyd, cymuned, a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc?
Rydym yn chwilio am Gogydd mewn Gofal brwdfrydig ac ymroddgar er mwyn arwain gwasanaeth arlwyo yn Ysgol San Sior, gan ddarparu prydau maethlon, o ansawdd uchel, sy'n cefnogi lles disgyblion, staff ac ymwelwyr.
Mae hon yn fwy na swydd goginio yn unig, mae'n gyfle i gymryd perchnogaeth dros wasanaeth allweddol, arwain tîm bychan, a helpu i siapio profiad amser cinio cadarnhaol yn amgylchedd prysur yr ysgol. Byddwch yn ganolog i ddiwrnod yr ysgol, gan greu prydau sy'n danwydd i addysg, ac yn dod â chysur a mwynhad i gymuned yr ysgol.
Os ydych chi'n drefnus, yn llawn cymhelliant, ac yn barod i arwain cegin gyfeillgar, hoffem glywed
gennych.

Prif ddyletswyddau'r swydd fydd:
1. Trefnu, paratoi a gweini bwyd amser cinio i myfyrwr, staff ac ymwelwyr Ysgol San Sior.
2. Darparu hyfforddiant ymarferol i weithwyr newydd a chyd weithwyr tra gweithio yn y gegin.
3.Coginio'r prydau sydd angen, monitro'r prydau bwyd, rhannu'r bwyd, archebu, golchi llestri a glanhau'r gegin a'r ystafell fwyta
4. Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant addas ac i ddatblygu (weithiau y tu allan i ddiwrnodau/oriau gweithio arferol trwy drefnu ymlaen llaw) h.y. Hylendid Bwyd Canolradd a Maeth Sylfaenol.
5. Dyletswyddau clercio cysylltiedig.

Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Wendy Pritchard, Rheolwr Arlwyo'r Ardal (01492 575581 / wendy.pritchard@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg:

Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.