MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Uwchradd Bodedern,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 80080.00 - 88322.00 GBP per Year
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 80080.00 - 88322.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Cefnogi'r Pennaeth trwy ddarparu arweinyddiaeth strategol ac weithredol ar draws yr ysgol er mwyn sicrhau bod
pob dysgwr yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.

Mae'r Corff Llywodraethu am benodi person sydd â'r sgiliau i:
• Weithio ar y cyd gyda'r pennaeth ym mhob agwedd o waith yr ysgol
• Weithredu fel yr aelod uwch dim rheoli ar agweddau cwricwlaidd a data
• Ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol
• Reoli prosiectau ysgol gyfan
• Gefnogi a datblygu gweithio mewn tîm
• Weithio'n effeithiol gyda staff, llywodraethwyr, rheini a'r gymuned ehangach
• Hyrwyddo ethos y Gymraeg yn yr ysgol a'i gweithgareddau allgyrsiol
• Ysgogi pob disgybl i gyrraedd eu llawn botensial

Cyflawni dyletswyddau proffesiynol yn unol â Safonau Proffesiynol Athrawon Cymru, Polisi a Gweithdrefnau'r
Ysgol, a Deddfwriaeth a Chanllawiau Diogelu cyfredol.

Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon
Ysgol (Cymru).

• Creu a hyrwyddo ethos cryf o ddiogelu, diogelwch a lles
• Sicrhau cyfle cyfartal a mynediad at addysg o safon uchel i bob dysgwr
• Arwain gyda phwyslais ar berthnasoedd cadarnhaol, parch ac ymddygiad adeiladol
• Gweithio ar y cyd â staff, rhieni/llywodraethwyr ac asiantaethau allanol

Mwy o wybodaeth
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2027 neu mor fuan â phosib

Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2026

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Arwyn Roberts

Rhif ff ô n: 01407 741000

Cyfeiriad e-bost: arwyn.roberts@yubodedern.cymru

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern, Ynys Môn, LL65 3SU

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2026