MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol y Gelli, Caernarfon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £11,601 - £11,784 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cefnogi Ysgol Lefel 2 (20 awr) Ysgol Y Gelli, Caernarfon
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £11,601 - £11,784 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
SWYDDOG CEFNOGI YSGOL LEFEL 2 (20 AWR) YSGOL Y GELLI, CAERNARFON
YSGOL Y GELLI, CAERNARFON
(Ysgol Gynradd 3 - 11 oed: 204 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3, pwyntiau 5 - 6 (sef £11,601 - £11,784) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Yn eisiau: 23 Mehefin 2026
Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am berson i gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol yn yr ysgol.
Oriau Gwaith: 20 awr yr wythnos
(38 wythnos y flwyddyn tymor ysgol yn unig)
Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol o safon uchel.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar9 gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Pholisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Ms Buddug Roberts (Rhif Ffôn 01286 674847) e-bost: Buddug.Roberts@gelli.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Elinor Owen, Cymhorthydd Busnes Ysgolion. Rhif ffon 01758 704048 e-bost: elinorwynowen@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr ysgol.
DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD LLUN, 1 Mehefin 2026.
(This is an advertisement for the post of a School Administrative Support Officer Level 2 (20 hours) at Ysgol Y Gelli, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
Profiad
• Gwaith clerigol/gweinyddol/ariannol cyffredinol.
Cymwysterau
• NVQ 2 neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
Gwybodaeth/ Sgiliau
• Gwybodaeth briodol o gymorth cyntaf.
• Defnydd effeithiol o becynnau TGaCh.
• Defnydd o offer/adnoddau perthnasol.
• Sgiliau bysellfwrdd da.
• Gwybodaeth o bolisïau /codau ymarfer priodol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, deall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol a'ch safle eich hun o fewn y rhain.
• Y gallu i adnabod anghenion hyfforddiant a datblygiad eich hun a chydweithredu i ymateb i'r anghenion hyn.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS SWYDD
• Darparu cefnogaeth gyffredinol weinyddol/ariannol i'r ysgol dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff uwch.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Trefniadaeth
• Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
• Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf /dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy'n sâl, cysylltu â rhieni/staff, ayyb.
• Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer teithiau ysgol, digwyddiadau, ayyb.
Gweinyddu
• Darparu cefnogaeth glercio/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, ffeilio, ffacsio, cwblhau ffurflenni safonol, ymateb i ohebiaeth arferol.
• Cynnal cofnodion /systemau gwybodaeth rheolaeth, e.e. SIMS.
• Cynhyrchu rhestrau/gwybodaeth/data fel y bo'n ofynnol, e.e. data disgyblion (STAR).
• Ymgymryd â theipio a phrosesu geiriau a thasgau TG-seiliedig eraill.
• Cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd.
• Trefnu a danfon post.
• Ymgymryd â gweithdrefnau arferol gosod adeiladau'r ysgol a defnydd eraill o adeilad yr ysgol.
Adnoddau
• Gweithredu offer perthnasol/ pecynnau TG a Ch (e.e. Word, Excel, basdata, taenlenni, rhyngrwyd).
• Cynnal stoc a chyflenwadau, catalogio a dosbarthu fel y bo'n ofynnol.
• Gweithredu gwerthiannau gwisg a gwerthiannau eraill o fewn yr ysgol.
• Darparu cyngor ac arweiniad cyffredinol i staff, disgyblion ac eraill.
• Ymgymryd â gweinyddu ariannol cyffredinol, e.e. prosesu archebion cyflenwadau, casglu a chynnal llechres ysgol.
Cyfrifoldebau
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â hwy mewn perthynas ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, gan adrodd ar bob pryder i'r pennaeth.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel bo'r gofyn
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad fel bo'r gofyn.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi