MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.
CLERC LLYWODRAETHWYR
Swydd Barhaol.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Oriau gwaith: 100 awr y flwyddyn.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11(£1,570 - £1,674 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Arweinydd Prosiect, Miss Bethan Roberts, Rhif ffôn: 01248 364905.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364690;
e-bost: bethan.roberts@friars.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
DYDDIAD CAU: 10 O'R GLOCH, DYDD IAU, 4 MEHEFIN 2026
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Addysgwyd i lefel TGAU (neu gyfwerth)
- Parodrwydd i fynychu hyfforddiant perthnasol (e.e. clercio, llywodraethu ysgolion, diogelu)
- Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster/hyfforddiant ar gyfer Clercod Llywodraethol o fewn cyfnod o flwyddyn o ddyddiad y penodiad.
DYMUNOL
- Cymhwyster cydnabyddedig neu brofiad blaenorol ym maes gweinyddiaeth.
- Wedi mynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr yn y gorffennol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o waith gweinyddol, yn ddelfrydol mewn lleoliad addysg neu lywodraethu
- Profiad o baratoi agendâu, cymryd cofnodion cywir, a rheoli cofnodion cyfrinachol
- Profiad o weithio gydag uwch randdeiliaid a chynnal safonau proffesiynol
- Profiad o weithio'n annibynnol a rheoli therfynau amser
DYMUNOL
- Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion.
- Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr eraill ar bob lefel.
- Profiad blaenorol o weithio gyda corff llywodraethu ysgol neu mewn gweinyddiaeth addysg.
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau llywodraethu.
- Cyfarwydd â pharatoi dogfennau ar gyfer arolygiadau Estyn neu gydymffurfiaeth.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.
- Sgiliau trefnu rhagorol gyda sylw cryf i fanylion
- Dealltwriaeth o neu barodrwydd i ddysgu am lywodraethu ysgolion, fframweithiau statudol, a deddfwriaeth addysg berthnasol
- Y gallu i ddehongli rheoliadau a pholisïau, a darparu cyngor clir i lywodraethwyr
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am ddiogelu data a GDPR
- Ymwybyddiaeth o egwyddorion a gweithdrefnau diogelu.
- Y gallu i ddrafftio cofnodion a gohebiaeth gywir
- Hyderus yn y defnydd o TG (e-bost, MS Word, llwyfannau cyfarfod ar-lein fel Zoom/Teams)
- Y gallu i aros yn ddiduedd a chadw cyfrinachedd.
- Y gallu i weithio'n annibynnol, rheoli llwyth gwaith eich hun ac ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau sy'n newid.
DYMUNOL
- Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion.
- Cyfarwydd â pholisïau ysgolion, cyfrifoldebau statudol llywodraethwyr, a deddfwriaeth addysg.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Yn gallu cyd-weithio fel aelod o dim.
- Yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gydag ystod o randdeiliaid
- Y gallu i gyrraedd targedau penodol.
- Hunan-gymhellol a rhagweithiol (gweld gwaith)
- Dibynadwy, proffesiynol a diplomyddol wrth ddelio ag ystod o randdeiliaid (e.e. llywodraethwyr, SLT, asiantaethau allanol)
- Synhwyrol a dibynadwy
- Dibynadwy, prydlon, a hyblyg
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol a chadw i fyny â newidiadau deddfwriaethol.
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Darparu gwasanaeth Clerigol i'r Corff Llywodraethol.
- Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio'n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.
- Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
-
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
- Mae'n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o'r Corff Llawn yn dymhorol
- Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda'r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
- Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn
GWASANAETH CLERCIO YMGYNGHOROL ESTYNEDIG:
Bydd y Clerc yn darparu gwasanaeth Ymgynghorol ac yn ychwanegol bydd yn:
- Rhoi arweiniad ar gyfrifoldebau cyfreithiol statudol y corff llywodraethol;
- Sicrhau bod cyfansoddiad y corff llywodraethol yn gywir yn unol â gofynion deddfwriaethol;">- Trefnu drafftio, arwyddo a chynnal Offeryn Llywodraethu'r corff llywodraethol;">- Cynghori ar Offerynnau Llywodraethu, rheoliadau llywodraethu ysgol, cylchlythyrau statudol, dyfarniadau cyfreithiol perthnasol a mesurau a gysylltir â llywodraethu ysgolion a all gael effaith ar rôl y corff llywodraethol;">- Cynghori ar gymhwyster, cworymau, gweithdrefnau ethol a rheoliadau anghymhwyso;
- Rhoi arweiniad ar sefydlu, cyfansoddiadau ac adolygiad (statudol) pwyllgorau (yn cynnwys cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgorau hynny);">- Rhoi arweiniad ar faterion cyfansoddiadol a gweithdrefnol;">- Monitro pwyntiau gweithredu i'w dilyn a gohebiaeth sy'n codi o benderfyniadau a wnaed mewn cyfarfodydd;">- Sicrhau bod polisïau statudol yn weithredol, ac anfonir copïau i'r ysgol o bolisïau a dogfennau eraill sydd wedi eu derbyn gan y corff llywodraethol;">- Ymchwilio yn ôl gofyn y corff llywodraethol;">- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â'r swydd.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.b.)
- Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ôl y gofyn am dal ychwanegol
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr.
ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) UWCHRADD
Paratoi ymlaen llaw cyn cyfarfod 4 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 8.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 14.5awr
14.5awr x 6 cyfarfod = 87.5 awr y flwyddyn
Gweinyddiaeth Blynyddol (12.5 awr) - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
Gweinyddu = 12.5 awr
Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant
NODYN
- 6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
- Pe byddai'r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio goramser.
- Pe byddai'r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio'r amser hwn yn ychwanegol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi