MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Torfaen Local Authority

Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu ymroddedig a chymwys i ymuno â'n hysgol.

Swydd barhaol

Cychwyn: Mis Medi 2026

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu i weithio 32.5 awr yr wythnos ar draws 5 diwrnod ysgol rhwng 8.15yb - 3:15yp*. Mae'r rôl yn ystod y tymor ysgol yn unig (39 wythnos).

Mae'r cyflog ar gyfer y rôl yn unol â Graddfa Gyflog 4 Torfaen £26,824-£28,598 pro-rata.

Mae'r ysgol wedi agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i'n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys Datblygu ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a'n trefniadaeth gyffredinol.

Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio'n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgol gydag angerdd am gynorthwyo ein dysgwyr i lwyddo. Chwiliwn am unigolyn deinamig, gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i wella cyrhaeddiad ein dysgwyr ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, cadarnhaol, gyda'r gallu i gydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.

Prif gyfrifoldebau:
  • Gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweinyddiaeth CADY neu aelodau o'r Uwch Dim Arwain yn ddyddiol yn y prosesau o sicrhau cefnogaeth Gofal Personal a chefnogaeth addysgiadol i ddisgyblion oedran uwchradd i gychwyn ond gyda'r potensial I ddatblygu I gefnogi dysgwyr bob oed yn ôl arbenigedd a dyheadau'r unigolyn
  • Cefnogi disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion er mwyn sicrhau mynediad i ddysgu
  • Cynorthwyo'r staff dysgu yn y prosesau o addasu gwaith lle bo angen er lles y disgybl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r Athrawon Dosbarth- wrth cefnogi ein dysgwyr.

Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i'r ymgeisydd llwyddiannus:
  • Cynorthwyo dysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion gwahanol sy'n awyddus i wella'u haddysg a datblygu fel dinasyddion llwyddiannus
  • Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar
  • Mynediad at ddysgu proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi
  • Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff
  • Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr cefnogol.

Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a'i ddychwelyd atom erbyn dydd Gwener, 29ain o Fai.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth, Mrs Cath Evans.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae'r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.