MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £32,597 - £36,363 y flwyddyn (G06)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 26 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Arbenigwr Cyflogaeth - Cysylltu â Gwaith (Lleoliad a Chymorth i Unigolion)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: £32,597 - £36,363 y flwyddyn (G06)
Lleoliad gwaith: Coed PellaHelpwch i newid bywydau drwy waith
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lansio rhaglen newydd o'r enw Cysylltu â Gwaith sy'n cefnogi pobl gyda chyflyrau iechyd a rhwystrau eraill i gael gwaith cynaliadwy ac ystyrlon. Rydym ni'n chwilio am Arbenigwr Cyflogaeth llawn cymhelliant, sy'n dosturiol wrth eraill ac sy'n gallu canolbwyntio ar ganlyniadau, i ymuno â'n tîm ar ddechrau'r rhaglen gyffrous hon.
Y Rôl
Byddwch yn rheoli llwyth achos o gyfranogwyr sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i waith, gan ddefnyddio model Lleoliad a Chymorth i Unigolion i ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn canolbwyntio ar chwilio am waith yn gyflym, yn ymgysylltu â chyflogwyr lleol, yn sicrhau rolau â chyflogau cystadleuol ac yn darparu cefnogaeth i helpu'r cyfranogwyr i gadw eu cyflogaeth a chyflawni eu hamcanion. Mae hon yn rôl gymunedol ar draws Sir Conwy, a bydd arnoch chi angen hyblygrwydd, mentergarwch a'r gallu i weithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd a phartneriaid atgyfeirio allweddol, yn ogystal â'r gallu i ymgysylltu â chyflogwyr a sefydliadau trydydd sector eraill yng Nghonwy.
Amdanoch Chi
Byddwch yn:
• Credu bod cyflogaeth yn ganolog i iechyd a lles
• Meddu ar brofiad o raglenni cyflogadwyedd, cyflogaeth â chefnogaeth, iechyd, gofal cymdeithasol neu faes perthnasol arall
• Gallu meithrin perthynas â chyflogwyr
• Trefnus, gwydn ac yn gallu canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau ystyrlon
Mae profiad o gynlluniau Lleoliad a Chymorth i Unigolion yn ddymunol ond nid yn hanfodol - darperir hyfforddiant llawn a chyfleoedd datblygu proffesiynol.
Pam ymuno â Chonwy?
• Bod yn rhan o raglen newydd, proffil uchel
• Helpu i siapio'r ddarpariaeth o'r cychwyn cyntaf
• Bod yn rhan o dîm cefnogol a chydweithredol
• Gwneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned
Croesewir ymholiadau anffurfiol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sarah Jones, Rheolwr Cyflogaeth (sarah.jones6@conwy.gov.uk / 01492 575126/07751729278)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English. (Hyperlink English URL)