MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £25,402 - £26,804 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £25,402 - £26,804 y flwyddyn
Technegydd WeldioGraddfa Gyflog 3: £25,402 - £26,804 y flwyddyn
Llawn Amser a Pharhaol
Ydych chi'n angerddol am weldio a saernïo ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o grefftwyr medrus? Ymunwch â'n tîm deinamig yng Ngholeg Penybont, lle bydd eich arbenigedd technegol yn helpu i lunio dyfodol darpar ffabrigwyr a pheirianwyr.
Diben y swydd: Cefnogi'r tîm cyflwyno, paratoi deunyddiau ac adnoddau addysgu a chynnal gweithdai, offer ac adnoddau er mwyn cynorthwyo i gyflwyno hyfforddiant effeithlon ac effeithiol.
Bydd gennych wybodaeth a phrofiad o weithio o fewn amgylchedd perthnasol, gan gynnwys arfer da a chymhwysedd galwedigaethol perthnasol, ynghyd ag NVQ Lefel 3 mewn Weldio a Saernïo neu gymhwyster cyfatebol.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.