MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes Adnodd Addysg Arbenning Dysgu Sylfaen Parhaol - Ysgol Swn y Don
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY
YSGOL SŴN Y DONPenmaenrhos, Bae Colwyn, LL29 9LL
Rhif ffôn: (01492) 577290
Pennaeth Mewn Gofal: Miss Salisbury
Yn eisiau erbyn mis Medi 2026
ATHRO/ATHRAWES ADNODD ADDYSG ARBENNING DYSGU SYLFAEN PARHAOL
Mae Ysgol Sŵn y Don yn dymuno penodi athro/athrawes angerddol, gofalgar a llawn cymhelliant i addysgu disgyblion Uned Adnodd Dysgu Cyfnod Sylfaen. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma.
Yn Sŵn y Don, rydym yn ymrwymedig i feithrin pob plentyn fel unigolyn ac i alluogi pob dysgwr i gyrraedd eu llawn botensial, beth bynnag fo'u man cychwyn.
Rydym yn rhoi plant wrth galon popeth a wnawn, gan ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol, gofalgar ac arbenigol lle mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae ein cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i fod yn ymatebol ac yn ddatblygiadol, ac wedi'i lunio gan anghenion unigol ein dysgwyr.
Yn Sŵn y Don, credwn fod cynnydd yn edrych yn wahanol i bob plentyn, ac rydym yn dathlu pob cam o dwf, ymgysylltiad ac annibyniaeth. Trwy lefelau uchel o ofal, cysondeb a chefnogaeth, rydym yn grymuso ein disgyblion i ddatblygu hyder, cyfathrebu a chariad at ddysgu, gan weithio'n agos gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol mwy cynhwysol a llawn gobaith i bawb.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon profiadol ac ymroddedig sydd â dealltwriaeth gadarn o Anghenion Dysgu Ychwanegol ac sy'n ymrwymedig i ddarparu darpariaeth gynhwysol o ansawdd uchel, wedi'i llywio gan egwyddorion Dysgu Sylfaenol a Chwricwlwm i Gymru, gan roi lles, maethu a chynnydd unigol wrth galon addysgu a dysgu.
Yr hyn rydym ni'n ei gynnig:
- Ysgol gyfeillgar, groesawgar a maethus lle mae cynhwysiant a lles disgyblion wrth galon popeth a wnawn.
- Amgylchedd sy'n Seiliedig ar Drawma sy'n gwerthfawrogi tegwch, cydraddoldeb ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Staff ymroddedig, medrus a thosturiol sy'n gweithio'n gydweithredol i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol ac anghenion mwy cymhleth.
- Cefnogaeth lawn y Pennaeth a'r Llywodraethwyr, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus ym maes ADY, Dysgu Sylfaenol a datblygiad arweinyddiaeth.
- Brofiadol mewn addysgu disgyblion ar draws ystod o oedrannau ac ystod o alluoedd, yn enwedig o fewn y Cyfnod Cynnar a Dysgu Sylfaenol, gyda dealltwriaeth ddiogel o'i seiliau a'i ymarfer datblygiadol priodol.
- Dangos dealltwriaeth glir o sut mae egwyddorion Dysgu Sylfaenol wedi esblygu o fewn Cwricwlwm i Gymru, gan gynllunio dysgu sy'n datblygu'r pedwar diben drwy gyfleoedd dysgu gweithredol, profiadol ac ystyrlon.
- Lle bo'n briodol, meddu ar brofiad o gefnogi dysgwyr sy'n gweithio ar y camau datblygu cynharaf, gan gynnwys defnyddio Llwybrau Dysgu i adnabod a dathlu cynnydd dysgwyr ag anghenion dwys a lluosog.
- Dangos sgiliau cryf mewn cynllunio ac asesu sy'n cael eu harwain gan arsylwadau, gan sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn cael ei ddal trwy gamau bach, ystyrlon mewn ymgysylltiad, cyfathrebu, lles ac annibyniaeth.
- Dangos trefniadaeth ystafell ddosbarth effeithiol a sgiliau rheoli ymddygiad, gan gynnal presenoldeb cryf, tawel, cyson a maethus sy'n briodol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ac anghenion mwy cymhleth.
- Meddu ar brofiad o gefnogi dysgwyr ag ADY drwy ddulliau addysgu addasol, ymyriadau targedig a strategaethau cynhwysol sy'n hyrwyddo cynnydd, hunanreoleiddio a lles.
- Meddu ar ddealltwriaeth ddiogel o Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a phrofiad o gyfrannu at, ysgrifennu, gweithredu ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) mewn partneriaeth â dysgwyr (lle bo'n briodol), teuluoedd a gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol.
- Hyderus, neu'n barod i hyfforddi, i ddefnyddio systemau'r awdurdod lleol, gan gynnwys ECLIPSE, i gofnodi, adolygu a monitro anghenion, darpariaeth a chynnydd disgyblion.
- Dangos y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol allanol ac asiantaethau, gan gyfrannu'n gadarnhaol at waith amlasiantaethol a chyfarfodydd.
- Cwrdd â gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, gan ddangos ymarfer myfyriol, moesegol ac wedi'i lywio gan ymchwil.
- Gweithio'n effeithiol yn annibynnol, gan ddefnyddio eu menter eu hunain, ac yn gydweithredol fel rhan o dîm ysgol cryf a chefnogol.
- Bod yn ddibynadwy, gwydn, hyblyg ac ymatebol, gan ddangos dull sy'n canolbwyntio ar atebion ac ar y plentyn.
Rydym yn chwilio am:
- Dangos ymarfer ystafell ddosbarth rhagorol a'r gallu i ysgogi, ysbrydoli ac ymgysylltu dysgwyr drwy ddulliau creadigol, synhwyraidd, ymarferol a seiliedig ar chwarae.
- Meddu ar ddealltwriaeth gref o ofal bugeiliol, maethu a lles emosiynol, yn enwedig o fewn cyd-destun Dysgu Sylfaenol neu adnodd ADY.
- Ymroddedig i gynhwysiant, tegwch ac grymuso disgyblion, gan roi lles disgyblion a'u teuluoedd wrth galon pob agwedd ar ymarfer.
- Gweithio'n effeithiol fel rhan o'n tîm ysgol cryf ac yn cyfrannu'n llawn at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys cyfleoedd cyfoethogi.
- Dangos cynhesrwydd, empathi a phroffesiynoldeb wrth gefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth.
Rhinweddau a sgiliau dymunol:
- Gwybodaeth ddiogel o asesu, cynnydd a defnydd barn broffesiynol o fewn Dysgu Sylfaenol a Chwricwlwm i Gymru.
- Profiad o, neu ddiddordeb mewn, TGCh a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FCD) i gefnogi dysgu, cyfathrebu ac ymgysylltiad.
- Y gallu i gyfrannu at neu arwain mentrau ysgol gyfan, gan ddefnyddio cydweithredu ac ymarfer wedi'i lywio gan ymchwil i gefnogi gwelliant parhaus.
Mae gallu addysgu a chyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd. Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 577290
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English