MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Botwnnog, Pwllheli,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BOTWNNOG

(Cyfun 11 - 16; 487 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi 2026

AIL HYSBYSEB ATHRO/AWES GWYDDONIAETH

Parhaol

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar. Buasai'n fanteisiol i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dysgu Cemeg at Lefel TGAU.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.

Oriau gwaith: Llawn Amser

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Dirprwy Bennaeth Mr Aled Williams (Rhif ffôn 01758 730220) neu trwy e-bost: cghms@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Manon Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Botwnnog, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd (Rhif Ffôn:01758 730220; Ffacs:01758 730439; e-bost: sg@botwnnog.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD GWENER, 29 O FAI, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth

ADDYSGEG

Mireinio Addysgu
  • Rheoli'r amgylched dysgu
  • Asesu
  • Gwahaniaethu
  • Cofnodi ac Adrodd
  • Cynnwys Partneriaid mewn Dysgu

Hyrwyddo Dysgu
  • Pedwar diben i ddysgwyr
  • Ymelwa ar ddisgyblaethau pynciol mewn meysydd dysgu
  • Profiadau dysgu cyfunol
  • Cyd-destunau bywyd go iawn dilys
  • Dilyniant mewn dysgu
  • Themâu trawsgwricwlaidd

Dylanwadu ar Ddysgwyr
  • Herio a disgwyliadau
  • Gwrando ar ddysgwyr
  • Dysgwyr yn arwain dysgu
  • Ymdrech barhaus a gwydnwch dysgwyr
  • Myfyrio ar ddysgu
  • Deilliannau dysgu a lles

CYDWEITHREDU
  • Ceisio cyngor a chymorth
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
  • Cefnogi a datblygu eraill
  • Galluogi gwelliannau

DYSGU PROFFESIYNOL
  • Darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil
  • Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
  • Dysgu proffesiynol parhaus
  • Sgiliau Cymraeg

ARLOESI
  • Cynnig arbenigedd
  • Datblygu technegau newydd
  • Gwerthuso effaith newid mewn ymarfer

ARWEINYDDIAETH
  • Cymryd cyfrifoldeb personol
  • Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
  • Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
  • Cefnogi rolau arweinyddiol ffurfiol

Mae disgwyl bydd pob athro yn ymrwymo i'r Safonau Proffesiynol a'u datblygu.

Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
  • Iaith a Diwylliant Cymru

Mae'r athro yn pwysleisio'n gyson ei bod yn hollbwysig hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cyfle i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Hawliau Dysgwyr

Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn ymagwedd yr athro at ei swydd. Mae gan yr athro ddisgwyliadau uchel ac ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni.
  • Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol

Mae'r athro yn pwysleisio'n gyson bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hollbwysig. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cyfle i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Dysgwyr Proffesiynol

Mae'r athro yn ddysgwr proffesiynol ac yn ymrwymo i ddatblygu, cydweithredu ac arloesi'n barhaus drwy gydol ei yrfa.
  • Rôl yn y System

Mae'r athro yn ymrwymedig i ddysgwyr ym mhob man ac mae'n chwarae rhan ddylanwadol wrth ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
  • Hawl Broffesiynol

Mae gan yr athro hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy'n ystyried ei hun yn sefydliad dysgu. Mae gan yr athro yr ymreolaeth i gyfrannu at y proffesiwn yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac mae ganddo'r hawl i ddechrau a chefnogi gwelliannau i'r ysgol er budd dysgwyr.

Swydd Ddisgrifiad

Mae dyletswyddau manwl swydd athro wedi eu nodi yn y ddogfen Dogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru). Ceir crynodeb isod. Dylid hefyd cydymffurfio a pholisïau ysgol ac adrannau perthnasol.

Nod y swydd
  • ​​Sicrhau bod plant a phobl Pen Llŷn yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • ​Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
  • ​Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDRh, Rheolwyr canol ac athrawon eraill mae'r athro yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
  • ​Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.​

Prif Ddyletswyddau
  • Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd.
  • Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol.
  • Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth' (crynodeb yn atodiad 1). Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.

Addysgu
  • Cynllunio ac addysgu cyrsiau a gwersi i'r dosbarthiadau y caiff ei neilltuo i'w haddysgu yng nghyd-destun cynlluniau, cwricwlwm (CiG) a chynlluniau gwaith yr ysgol.
  • Asesu, monitro, cofnodi ac adrodd am anghenion dysgu, cynnydd a chyflawniadau'r disgyblion a neilltuwyd yn unol â pholisïau ysgol/adran.
  • Cymryd rhan mewn trefniadau i baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol.
  • Rhaid darparu amser CPA mewn unedau heb fod yn llai na hanner awr yn ystod wythnos amserlen addysgu'r ysgol a rhaid iddo beidio â bod yn llai na 10% o amser addysgu a amserlenir yr athro.

Trefniadaeth, strategaeth a datblygiad ysgol gyfan
  • Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a gweithdrefnau'r ysgol mewn ffordd sy'n cynorthwyo gwerthoedd a gweledigaeth yr ysgol.
  • Gweithio gydag eraill ar ddatblygiad disgyblion a/neu'r cwricwlwm, er mwyn sicrhau canlyniadau cydgysylltiedig.
  • Goruchwylio, ac i'r graddau sy'n ymarferol, addysgu unrhyw ddisgyblion os nad yw'r sawl a nodwyd yn yr amserlen i addysgu'r dosbarth ar gael i wneud hynny. Dim ond ar adegau prin y dylid gofyn i athrawon gyflenwi, a dim ond o dan amgylchiadau annisgwyl (nid yw hyn yn gymwys i athrawon a gyflogir yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn darparu gwasanaeth cyflenwi o'r fath).

Iechyd, diogelwch a disgyblaeth
  • Hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion.
  • Cynnal trefn a disgyblaeth dda ymhlith disgyblion.
  • Adrodd ar unrhyw bryderon iechyd a diogelwch i rheolwr llinell

Rheoli staff ac adnoddau
  • Cyfarwyddo a goruchwylio staff cymorth a neilltuwyd iddynt ac athrawon eraill pan fo hynny'n briodol.
  • Cyfrannu at recriwtio, dewis, penodi a datblygiad proffesiynol athrawon eraill a staff cymorth.
  • Trefnu adnoddau a ddirprwywyd iddynt.

Datblygiad proffesiynol
  • Cymryd rhan mewn trefniadau i werthuso ac adolygu eu perfformiad eu hunain a, phan fo hynny'n briodol, perfformiad athrawon eraill a staff cymorth.
  • Cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer eu hyfforddiant a'u datblygiad proffesiynol pellach eu hunain a, phan fo hynny'n briodol, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol athrawon eraill a staff cymorth, gan gynnwys gweithgarwch ymsefydlu.

Cyfathrebu
  • Cyfathrebu â disgyblion, rhieni a gofalwyr.

Gweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill
  • Cydlafurio a gweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol.

Dyletswyddau Penodol Eraill
  • Chwarae rhan llawn ym mywyd cymunedol ac allgyrsiol yr ysgol, cynorthwyo ei chenhadaeth ac ethos nodedig ac annog staff a myfyrwyr i ddilyn yr esiampl hon.
  • Cynorthwyo'r ysgol i gwrdd a'i gofynion cyfreithiol am addoli.
  • Hyrwyddo holl bolisïau yr ysgol.
  • Parhau â datblygiad proffesiynol personol fel y cytunwyd arno drwy'r drefn rheoli perfformiad.
  • Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac ymgymryd ag asesiadau risg fel sy'n briodol.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall a nodir yn y 'Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol' diweddaraf na sonnir amdani uchod.
Nodiadau
  • Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb
  • Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
  • Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi