MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Heb ei ddarparu
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 3201
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Achlysurol
Lleoliad:
Llandeilo
Gradd:
Gradd D
Cyfradd yr awr:
£13.45 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol)
Oriau Contract:
Achlysurol
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Glerc i'r Corff Llywodraethol trefnus, rhagweithiol a phroffesiynol i gefnogi gwaith llywodraethu'r ysgol o fis Gorffennaf 2026. Dyma gyfle gwerthfawr i chwarae rhan allweddol yn cefnogi llywodraethu cadarn ac effeithiol mewn ysgol flaengar sy'n ymrwymedig i ddwyieithrwydd, tryloywder, cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus er budd dysgwyr, staff a'r gymuned ehangach.
Fel Clerc i'r Corff Llywodraethol, byddwch yn:
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â safonau proffesiynol uchel, sylw rhagorol i fanylion a dealltwriaeth gadarn o rôl strategol y Corff Llywodraethol. Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol, yn gweithio gyda disgresiwn ac uniondeb, ac yn cyfrannu'n uniongyrchol at lywodraethu cadarn, diwylliant cadarnhaol a gweledigaeth uchelgeisiol yr ysgol.
Bydd y penodiad yn cael ei wneud drwy gyfweliad yn seiliedig ar gymhwysedd. Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr Emyr Davies, ar Emyr.Davies@brodinefwr.org.uk.
Os ydych yn frwdfrydig am wneud effaith barhaol ar brofiadau dysgwyr a bywyd yr ysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
Disgrifiad Swydd:
Pceyn Recriwtio Terfynnol Clerc y Llywodraethwyr - Final Clerk to the Governors Recruitment pack.pdf - 3968KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 13/09/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.

- Cefnogi'r Cadeirydd, y Pennaeth a'r Llywodraethwyr drwy drefnu cyfarfodydd, paratoi agendâu a phapurau, a chynhyrchu cofnodion manwl, cywir ac amserol.
- Darparu cyngor dibynadwy ac wrthrychol ar weithdrefnau llywodraethu, deddfwriaeth berthnasol a gofynion statudol.
- Sicrhau parhad busnes y Corff Llywodraethol drwy gynnal cofnodion, dogfennau statudol a gwybodaeth lywodraethu mewn modd trefnus a chyfrinachol.
- Cefnogi llywodraethu effeithiol trwy feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda Llywodraethwyr a phartneriaid allanol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â safonau proffesiynol uchel, sylw rhagorol i fanylion a dealltwriaeth gadarn o rôl strategol y Corff Llywodraethol. Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol, yn gweithio gyda disgresiwn ac uniondeb, ac yn cyfrannu'n uniongyrchol at lywodraethu cadarn, diwylliant cadarnhaol a gweledigaeth uchelgeisiol yr ysgol.
Bydd y penodiad yn cael ei wneud drwy gyfweliad yn seiliedig ar gymhwysedd. Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr Emyr Davies, ar Emyr.Davies@brodinefwr.org.uk.
Os ydych yn frwdfrydig am wneud effaith barhaol ar brofiadau dysgwyr a bywyd yr ysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
Disgrifiad Swydd:
Pceyn Recriwtio Terfynnol Clerc y Llywodraethwyr - Final Clerk to the Governors Recruitment pack.pdf - 3968KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 13/09/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd