MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glynllifon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £10, 586 y flwyddyn (sy'n cynnwys hawl gwyliau)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu (Anghenion Dysgu Ychwanegol), Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £10, 586 y flwyddyn (sy'n cynnwys hawl gwyliau)
Pwrpas y swydd
Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i wneud y gorau o'u potensial ac unrhyw gyfleoedd dysgu a gynigir iddynt. Cefnogi a chynorthwyo staff addysgu gyda gofal academaidd, cymdeithasol a bugeiliol dysgwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o diwtoriaid coleg, yn arbenigwyr pwnc ac yn arbenigwyr Cefnogi dysgu a dysgwyr. Rhoddir pob anogaeth i ddangos menter ac i weithio fel rhan o dîm. Bydd disgwyl cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi staff perthnasol a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fod mor effeithiol â phosibl yn y rôl hon.
Bydd disgwyl i Gynorthwywyr Cefnogi Dysgu gyflawni eu dyletswyddau yn unol â Chanllawiau Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu Grŵp Llandrillo Menai ac o fewn System Ansawdd y Coleg. Bydd dyletswyddau'n amrywio yn ôl angen y myfyriwr(myfyrwyr), ond gallent gynnwys unrhyw un neu bob un o'r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau a amlinellir yn y swydd ddisgriifad.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/209/26
Cyflog
£10, 586 y flwyddyn (sy'n cynnwys hawl gwyliau)
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, a bennir yn flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
- Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.
- Bydd contractau Amser Tymor yn derbyn hawl pro rata i'r uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
19.5 awr yr wythnos, 34 wythnos y flwyddyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
22 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)