MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed, Bridgend, CF35 5LG
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £21,135.00 - £41,597.00
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2021 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd TG / Cyfrifiadura a delir yn ol yr awr

Darlithydd TG / Cyfrifiadura a delir yn ol yr awr

Coleg Penybont
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig llawn cymhelliant i ddysgu ar sail tâl fesul awr yn yr Adran TG ar hyn o bryd. Wrth weithio fel rhan o dîm, bydd gofyn i chi cynllunio, darparu ac yn asesu sesiynau theori ac ymarferol, felly bydd gennych brofiad helaeth o ddefnyddio blaengarwch, creadigrwydd a phenderfyniadau da wrth gyflwyno gweithgareddau mewn maes sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm.

Gofynnwn i chi feddu ar radd berthnasol neu brofiad diwydiannol cyfwerth, yn ogystal ȃ Tystysgrif TAR, neu byddwch yn barod i gyflawni hyn. Dylech fod ȃ dealltwriaeth ynghylch darparu’r cwricwlwm TG ar gyfer cymwysterau Addysg Bellach ac Uwch o safon Lefel 1 i Lefel 5, ac yn ddelfrydol bydd hefyd gennych ddealltwriaeth o Fagloriaeth Cymru, technolegau newydd a ddatblygol, cysyniadau e.e. VR, EV3 Lego Mindstorm a RPi.

Gofynnwn fod gennych ddealltwriaeth dda am bynciau TG craidd megis rhaglennu, rhwydweithio, caledwedd, seiber-ddiogelwch, cronfeydd data, dylunio gemau, a rheoli prosiectau, gydag arbenigedd mewn un neu fwy o’r meysydd hyn, yn ogystal â’r gallu i gyfleu’r wybodaeth yma i ystod eang o ddysgwyr â lefelau gallu gwahanol.

Os ydych yn credu y gallwch gyfrannu at ddysgu ac addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych! Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.