MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Mid Powys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Calon Cymru)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Calon Cymru)Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Darparu goruchwyliaeth gyflenwi i'r dosbarth cyfan pan fydd yr athro cyfrifol ar absenoldeb tymor byr
(gweler * isod).
Mae goruchwyliaeth gyflenwi'n digwydd pan fydd disgyblion yn gwneud dysgu
hunangyfeiriedig, os yw'r gwaith wedi'i osod a bod y disgyblion yn gallu gweithio'n
annibynnol a pharhau â'r dasg. Ni fydd addysgu gweithgar yn digwydd o gwbl yn ystod
goruchwyliaeth gyflenwi.
(*Mae rhywun nad yw'n athro cymwysedig, h.y. "goruchwyliwr cyflenwi", yn gallu
cyflenwi am absenoldebau tymor byr. Efallai na fydd absenoldebau felly wedi'u
cynllunio ymlaen llaw, e.e. absenoldeb tymor byr oherwydd salwch neu absenoldeb
brys o fath arall, neu wedi'u cynllunio ymlaen llaw, e.e. mynychu HMS neu ddatblygiad
proffesiynol arall neu apwyntiad meddygol.)
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS