MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Gradd 6 – £28,142 x 68.25%
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 6 – £28,142 x 68.25%
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002311 Dyddiad postio 01/05/2026 Dyddiad cau ceisiadau 22/05/2026 Cyflog Gradd 6 - £28,142 x 68.25% Oriau gwaith 28.75 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil TA L3_CY-GB.pdf
Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)
Disgrifiad Swydd
Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James
01443 486813
Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)
28 ¾ awr y wythnos - yn ystod tymhorau'r ysgol yn unig
Cyflog - Gradd 6 - £28,142 x 68.25%
Dyddiad dechrau'r - Medi 1af, 2026
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James am benodi person cyfeillgar, cydwybodol a brwdfrydig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn medru sefydlu perthynas dda wrth weithio gyda phlant, athrawon a rhieni. Mae'r gallu i gyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol.
Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr, nid y ddolen isod. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent drwy ffonio 01443 680760 neu e-bostio: itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Mrs Emma Smith, Pennaeth, ar 01443 486813.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 22/05/2026.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.