MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Gyfun Llangefni,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 28142.00 - 31022.00 GBP per Year
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr / Gofalwraig - Lefel 4

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 28142.00 - 31022.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgolion, a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion HSE.

Bod yn gyfrifol am reoli materion yn ymwneud ag ynni, diogelwch, glendid a chynnal a chadw adeiladau a thiroedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio contractwyr ar y safle.

Adnabod blaenoriaethau ar gyfer gwariant.

Yn ogystal, bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth gofalwr ymarferol, gan gyflawni dyletswyddau gweithredol o ddydd i ddydd i sicrhau rhedeg llyfn, glendid, diogelwch a chynnal a chadw safle'r ysgol.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mr Huw Davies

Rhif ff ô n: 01248 723411

Cyfeiriad e-bost: daviesh215@hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7NG

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 15 Mai 2026