MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 31 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd George Street
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
Cyfnod penodol am flwyddyn, 31 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddynMae Ysgol Gynradd George Street yn ysgol groesawgar a llwyddiannus.
Mae gennym gyfle cyffrous i gynorthwyydd addysgu Lefel 2 llawn-amser ymuno â'n tîm sy'n llawn cymhelliant, am gyfnod penodol, 8:45 hyd 15:15 bum niwrnod yr wythnos.
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 ymroddgar a phrofiadol sydd â phrofiad profedig mewn lleoliad ysgol gynradd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn ofalgar ac yn gallu meithrin disgyblion, a bydd yn dangos cyffro go iawn pan fo'r dysgu ar y trywydd cywir a chydnerthedd a'r gallu i addasu pan na fydd hynny'n wir. Bydd yn cydnabod y gall cyfleoedd dysgu ystyrlon godi o'r sefyllfaoedd mwyaf annisgwyl.
Rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad o gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan gynnwys anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad, ac yn hyderus wrth ofalu am anghenion gofal personol plant lle bo angen.
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio'n hyderus o dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff addysgu neu uwch-aelodau o staff i ddarparu rhaglenni gofal, cymorth a dysgu sy'n galluogi dysgwyr i gael mynediad at addysg, a hynny yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi. Rhaid i ymgeiswyr gadw disgwyliadau uchel ar gyfer ymddygiad, ymgysylltu a dysgu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos agwedd greadigol, cadarnhaol a hyblyg at waith yn rhan o dîm ystafell ddosbarth ac yn dangos ymrwymiad a meddwl agored i addasu'r ddarpariaeth mewn ymateb i blant y gallai eu hanghenion newid o ddydd i ddydd. Mae dull gweithredu cryf, cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn hanfodol.
Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu cyfrannu â pharodrwydd at redeg y dosbarth o ddydd i ddydd (e.e. trwy gymryd rhan mewn dyletswyddau awr ginio, goruchwylio amseroedd chwarae, croesawu plant wrth y giât, rhyddhau plant ar ddiwedd y dydd ayb).
Mae synnwyr digrifwch ac awydd i wneud dysgu ac amser yn yr ysgol yn hwyl, yn hanfodol.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu â Keri Manley, Pennaeth ar 01495 756436.
Dyddiad Cau: Dydd Sul 31 Mai 2026
Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Llun 1 Mehefin 2026
Arsylwi yn yr ystafell ddosbarth: Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026
Cyfweliadau: Dydd Mercher 10 Mehefin 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.