MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £13.47 | Grade 2
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwydd Amswer Cinio - Ysgol Panteg

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £13.47 | Grade 2

Gradd 2, Pro Rata

Parhaol- 7.5 awr yr wythnos / 38 wythnos y flwyddyn

Hours: 11:45 to 13:15, Monday-Friday

Rydym yn chwilio am aelod o staff i ymuno a'r tim sy'n gyfrifol am ofalu am ddysgwyr yn Ysgol Panteg yn ystod eu hamser cinio. Rydym yn chwilio am bobl brwdrfrydig a charedig i ofalu am ein dysgwyr gan sicrhau eu diogelwch mewn awyrgylch cyfeillgar a Chymreig. Bydd y rôl yn dechrau cyn gynted ag sy'n bosib.

Am fwy o wybodaeth am y swydd hon cysylltwch a'r Pennaeth, Dr. Matthew James Williamson-Dicken, trwy alwad ffôn neu drwy ebostio: head.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk

Ymgeisiwch trwy system recriwtio Torfaen erbyn Dydd Mawrth, 19 eg o Fai.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ddydd Iau, 21ain Mai.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.