MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Hourly rate: £13.90 - £14.82 | Grade 4
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Achlysurol Gweithiwr Gofal Plant (Y Blynyddoedd Cynnar)
Torfaen Local Authority
Cyflog: Hourly rate: £13.90 - £14.82 | Grade 4
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Byddai'n ofynnol i'r Gweithiwr Gofal Plant Achlysurol gyflenwi mewn amrywiaeth o leoliadau Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar a Thîm y Crèche Symudol
Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant Achlysurol, sy gymwys, profiadol a brwdfrydig, i gamu i mewn i rôl pan fydd angen yn codi.
Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Goruchwyliwr Gofal Plant i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel yn y maes hwn..
Rhaid bod deiliad y swydd yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn y maes Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant, fel NVQ Lefel 3 neu gyfwerth.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais neu bydd angen bod yn barod i gymryd rhan yn rhaglen CAMAU Llywodraeth Cymru - sef y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gyfer Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar.
Rhaid bod gennych brofiad o weithio gyda phlant, a deall yr hyn sydd ei angen i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i blant 0-5 oed. Byddai profiad o ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn ddymunol.
I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch ag Emma Edwards ar 07940792823.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.