MANYLION.
  • Lleoliad: Mid Powys,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Athro/Athrawes Gwyddoniaeth
Rhan-amser
Contract Cyfnod Penodol am flwyddyn
Rydym yn chwilio am Athro/Athrawes Gwyddoniaeth hynod o gymhellgar sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i addysg a phrofiadau dysgu ein holl fyfyrwyr. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i athro/athrawes ysbrydoledig i weithio mewn tîm cefnogol ac egniol a byddem yn croesawu ceisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon sydd newydd gymhwyso. Os oes gennych sgiliau trefniadol gwych a'r gallu i
weithio ag eraill i godi cyrhaeddiad trwy gymell ac ysbrydoli myfyrwyr, yna hoffem glywed oddi wrthych.
Rydym yn chwilio am arbenigwr Gwyddoniaeth medrus a brwdfrydig sy'n angerddol am alluogi'r holl fyfyrwyr i wneud cynnydd arwyddocaol o fewn eu pynciau. Rhaid i chi allu cynllunio gwersi sy'n ymgysylltu a gweithio'n gydweithredol ochr yn ochr â staff dawnus a diwyd sy'n ymroddedig tuag at ddarparu cyfleoedd neilltuol i'n myfyrwyr.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 sy'n gwasanaethu ardal wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth gweithgar. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm o athrawon a staff cymorth gweithgar, cymwys a phenderfynol. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch at ei gilydd, ysbryd tîm a gweithio gyda'n gilydd er lles
gorau'r disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar, ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o fod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegiad at y gymuned ddysgu yn ein helpu i
gyflawni'r weledigaeth hon. Mae ein gwefan ysgol (https://www.ysgolcalon.cymru/) yn
darparu amrywiaeth o wybodaeth am yr ysgol.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 a disgrifiwyd gan Estyn fel:
"Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu tawel, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff yr ysgol ac yn gyfeillgar gydag ymwelwyr." Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.