MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun:
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,426 - £23,327
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2021 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Ymgynghorydd Datblygiad Busnes Iau

Ymgynghorydd Datblygiad Busnes Iau

Coleg Caerdydd a'r Fro
Teitl y Swydd: Ymgynghorydd Datblygiad Busnes Iau

Contract: Amser llawn, parhaol

Cyflog: £21,426 - £23,327 y flwyddyn

Lleoliad: Caerdydd a’r Fro



Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Ymgynghorydd Datblygiad Busnes Iau i weithio yn ein Campws Canol Dinas er bydd disgwyl iddo/iddi fynd i gampysau eraill yn ôl yr angen.



Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu a thrafod o bell berthnasoedd gyda chwsmeriaid, gan gynnwys:



- Galwadau oddi wrth ac i gleientiaid busnes

- Darparu gwybodaeth neu gynigion gwerthiant

- Gwerthiant uniongyrchol

- Trefnu a mynd i apwyntiadau gyda Thîm Atebion Cyflogwyr

- Casglu a mewnbynnu Gwybodaeth am Gyfrifon a Gwybodaeth am y Farchnad Lafur i’r system CRM



Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn addysg i safon dda â 5 TGAU (A* - C) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd bod â phrofiad blaenorol o weithio i dargedau o fewn amgylchedd gwerthu perfformiad-uchel yn allweddol i’r rôl a bydd y gallu i sicrhau canlyniadau drwy alwadau gwerthu, i mewn ac allan, yn hanfodol. Bydd gwybodaeth a phrofiad ymarferol llwyddiannus o greu cysylltiadau busnes yn bwysig a bydd sgiliau cyfathrebu ardderchog ym maes busnes gan yr ymgeisydd delfrydol er mwyn datblygu rapport gyda chleientiaid dros y ffôn ac yn bersonol ynghyd â’r gallu i gyfleu gwerthoedd y Coleg yn effeithiol.



Mae rhagor o fanylion ynglyn â’r rôl, manyleb y person a chymwyseddau’r swydd ar gael yn y disgrifiad swydd atodedig.



Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.



12:00PM ar 14/06/2021 yw’r dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais cyflawn.


JOB REQUIREMENTS
Manyleb y Person – Ymddygiad, Rhinweddau a Gwerthoedd Personol
10. Sgiliau cyfathrebu ac adeiladu perthynas eithriadol dros y ffôn neu’n bersonol
11. Yn gallu rheoli eich targedau a’ch amser chi eich hunan
12. Cymhelliant a gwydnwch mawr
13. Yn gallu arfer cywirdeb, bod yn drefnus a rhoi sylw i fanylion

14. Yn cyflwyno’ch hunan yn ysgrifenedig, dros y ffôn ac yn bersonol mewn ffordd broffesiynol

15. Yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth a dangos agwedd ragweithiol tuag at dasgau

16. Yn gallu datblygu craffter masnachol
Manyleb y Person – Sgiliau a Phrofiad
17. Sgiliau eithriadol o ran gwasanaeth i gwsmeriaid ac adeiladu perthnasoedd

18. Yn gallu trefnu, blaenoriaethu a rheoli eich baich gwaith chi eich hunan
19. Sgiliau datblygu busnes gan gynnwys creu cysylltiadau a thrafod gwrthwynebiadau

20. Saesneg busnes o safon wych ar lafar ac yn ysgrifenedig

21. Yn gallu defnyddio TG o safon ganolig/uwch gan gynnwys CRM, Word ac Excel

22. Yn deall egwyddorion marchnata sylfaenol
23. Record lwyddiannus o sicrhau canlyniadau drwy ddatblygu busnes drwy gyfrwng galwadau ffôn i mewn ac allan

24. Profiad o weithio mewn amgylchedd Dangosyddion Perfformiad Allweddol

25. Profiad o rwydweithio a datblygiad busnes wyneb-yn-wyneb

Manyleb y Person – Addysg a Chymwysterau
26. Addysg gyffredinol dda (5 TGAU neu gyfwerth)