MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Busnes a Chyllid - Ysgol Godre'r Berwyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION DILYNOL

YSGOL GODRE'R BERWYN, Y BALA

(Cyfun 3 - 18: 586 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted a phosib

ARWEINYDD BYSNES A CHYLLID

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol

Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur ynghyd ag agwedd hyblyg a sgiliau gofal cwsmer o'r radd flaenaf.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(41 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S4 pwyntiau 26 - 28 (sef £34,346 - £36,070 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Bethan Emyr Jones e-bost: bethan.emyr@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 15 O FAI, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Rheolwr Busnes a Chyllid Ysgol Godre'r Berwyn

Adran Addysg

Bydd deilydd y swydd yn rheoli cyllideb ddirprwyedig yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol.

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn uniongyrchol i'r Prifathro am weinyddiad effeithiol yr ysgol ac yn goruchwylio holl staff gweinyddol yr ysgol.

Gweithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth â'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol.

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD

Cymwysterau / Hyfforddiant Galwedigaethol / Cymwyseddau
  • Cyfwerth a NVQ3 mewn gweinyddu.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
  • Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da.

Gwybodaeth a Sgiliau
  • Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur, a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
  • Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint
  • Profiad/dealltwriaeth o reoli cyllideb.
  • Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifennedig cadarn yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Profiad
  • Profiad o weithio mewn rôl weinyddol o fewn ysgol.
  • Profiad o weinyddu systemau rheolaeth ysgol yn effeithiol

Nodweddion a Gwerthoedd Personol
  • Un sy'n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau, swyddogion allanol, ysgolion a rhieni.
  • Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
  • Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
  • Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
  • Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
  • Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.


Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd

Bydd deilydd y swydd yn rheoli cyllideb ddirprwyedig yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol.

Gweithio'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol.

Prif gyfrifoldebau
  • Cyfrifoldeb am reolaeth ariannol yr ysgol. Paratoi cyllidebau manwl sy'n dangos sefyllfa'r gyllideb a ragwelir ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar staffio a niferoedd disgyblion gan gymryd i ystyriaeth y blaenoriaethau a nodir yn y cynllun datblygu ysgol.
  • Rheoli cyfleusterau'r ysgol, rheoli a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol, sicrhau fod adeiladau'r ysgol yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau brys a chadw at ofynion Iechyd a Diogelwch.
  • Cyfrifoldeb am reoli system ddata'r ysgol.
  • Cyfrifoldeb am ddefnydd cymunedol o'r ysgol a chydlynu gyda Theatr Derek Williams gan wneud trefniadau ar gyfer gosod yr ysgol a threfnu i ymateb i anghenion y defnyddwyr, bilio a derbyn taliadau.
  • Gweithredu fel prif bwynt cyswllt yr ysgol gyda nifer o adrannau'r Cyngor.

Rheoli Cyllid
  • Paratoi adroddiadau ariannol i'r Pennaeth, yr Is-bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethol gan gynnwys monitro incwm a gwariant trwy gydol y flwyddyn a darparu cyngor ac argymhellion i sicrhau fod gwariant o fewn y gyllideb.
  • Rheoli gweinyddiaeth ddyddiol y gyllideb gan ddefnyddio'r system SIMS LRM - sicrhau cywirdeb holl drafodion ffeil cysoni'n fisol, prosesu archebion, anfonebau, incwm, a gwneud trosglwyddiadau cyllidol mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth a'r Is-bwyllgor Cyllid.
  • Llunio'r gyllideb, a'r gyllideb ddiwygiedig, mewn cydweithrediad â'r Pennaeth ar gyfer yr Is-bwyllgor Cyllid.
  • Darparu gwybodaeth gyson am falansau arfaethedig yr ysgol fel ffynhonnell wybodaeth greiddiol ar gyfer yr Is-bwyllgor.
  • Goruchwylio rheolaeth grantiau allanol drwy ddarparu gwybodaeth am eu defnydd i adain gyllid y Cyngor gan sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle sy'n cadw at reoliadau ariannol.
  • Cau cyfrifon diwedd y flwyddyn yn unol â'r rheoliadau ariannol.
  • Gweinyddu cronfeydd preifat yr ysgol, gan gynnwys Cronfa Disgyblion. Cysylltu gyda'r archwilwyr allanol a darparu gwybodaeth iddynt. Darparu adroddiadau ar y cronfeydd i'r Is-bwyllgor Cyllid.
  • Darparu gwybodaeth yn ôl yr angen ar gyfer adran archwilio'r sir.
  • Rheoli a gweinyddu'r cynllun gwersi offerynnau cerdd.
  • Gweinyddu ceisiadau i Cyllid Myfyrwyr Cymru.
  • Gweinyddu a gwirio timesheets staff sy'n hawlio oriau ychwanegol ac athrawon llanw, gan sicrhau cywirdeb, cadarnhad gan reolwyr llinell, a chyflwyno mewn pryd i'r adran gyflogres.
  • Bydd yn ofynnol i deilydd y swydd fynychu gwahanol gyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd yr uwch dîm rheoli, Is-bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethol. Bydd presenoldeb mewn rhai cyfarfodydd tu allan i oriau gwaith hefyd yn un o ofynion allweddol y rôl.
  • Cynghori'r Corff Llywodraethwyr ar y defnydd gorau o adnoddau a fydd yn hwyluso'r gwaith o godi safonau a monitro perfformiad yn ogystal â mesur targedau perfformiad cywir.
  • Gweithio'n rhagweithiol i ganfod ffyrdd newydd o weithio a herio'r dulliau presennol o ddarparu gwasanaethau er mwyn ceisio lleihau'r pwysau cyllidol yn y dyfodol, e.e. systemau taliadau cyllidol electronaidd.

Rheoli Data
  • Cynnal gweithdrefnau cofnodi ymddygiad.
  • Cynnal cronfa ddata asesu a sicrhau bod data asesu a gedwir am ddisgyblion yn gywir a chyflawn.
  • Rheoli'r broses o gynhyrchu adroddiadau blynyddol ac adroddiadau interim ar gynnydd yr holl ddisgyblion yn yr ysgol.
  • Mewnforio data gosod targedau gan ymddiriedolaeth DEWI, CATS ac ALPS.
  • Cefnogi'r broses derbyniadau disgyblion.
  • Cefnogi gweithrediad systemau data presenoldeb.
  • Sicrhau bod data trosglwyddo disgyblion i'r ysgol yn gyflawn a chywir (e.e. disgyblion meithrin/derbyn, disgyblion newydd, disgyblion sy'n trosglwyddo i flwyddyn 7). Mewnfudo'r data i'r system.
  • Hyfforddi cydweithwyr ar gyfer defnyddio pecynnau meddalwedd gan gynnwys BROMCOM.
  • Gosod a chynnal grwpiau dysgu, dyrannu aelodaeth i ddisgyblion ac athrawon, diweddaru a gwneud newidiadau cyfnodol ac achlysurol i gyrsiau, athrawon ac ystafelloedd.
  • Sicrhau bod data yn cael ei drosglwyddo'n ddidrafferth rhwng gwahanol systemau gwybodaeth a meddalwedd.

Iechyd a Diogelwch / Rheoli Safle
  • Rheoli holl faterion Iechyd a Diogelwch yn cynnwys cyfleusterau'r ysgol, rheoli a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol, sicrhau fod adeiladau'r ysgol yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau brys a chadw at holl ofynion Iechyd a Diogelwch.
  • Cyflawni rôl Swyddog Iechyd a Diogelwch a Swyddog Tân yr ysgol.
  • Sicrhau bod polisïau yn gyfredol ac addas ac yn cael eu gweithredu'n llawn. Mae hyn yn cynnwys cwblhau taflenni HS11
  • Trefnu a goruwchwilio'r holl drefniadau cytundeb lefel gwasanaeth gyda'r awdurdod lleol ac ymateb i ofynion tendro ac archebu gan sicrhau gwerth am arian.
  • Goruwchwilio trefniadau yswiriant - gan gynnwys trefniadau bws mini diogel.
  • Monitro gwaith contractwyr, gan adrodd I'r Pennaeth yn ôl yr angen.
  • Gweithredu fel Swyddog Ymweliadau Addysgol yr ysgol gan gynnwys gweithredu Evolve a gwirio bod asesiadau risg addas mewn lle.

Llywodraethwyr
  • Gweithredu fel clerc y Corff Llywodraethol a'r Is-bwyllgorau: galw cyfarfodydd, trefnu'r agenda, paratoi'r ddogfennaeth, cofnodi cyfarfodydd, a gweithredu penderfyniadau. (ar y cyd â ST a BEJ)
  • Rheoli'r holl ofynion statudol mewn perthynas â'r llywodraethwyr unigol: hyfforddiant mandadol, rhestr buddiannau, egwyddorion ymddygiad, gwiriadau troseddol DBS.

Gweinyddiaeth / Rheoli Pobl
  • Cyfrifoldeb am faterion personél pob aelod o staff a materion cyflog.
  • Cydweithio â'r adran bersonél i sicrhau fod yr ysgol yn derbyn cyngor ac arweiniad ar faterion cyflogaeth.
  • Cydlynu a chadw cofnodion o faterion yn ymwneud â phob aelod o staff, gan gynnwys gwiriadau troseddol DBS.
  • Gweinyddu'r drefn absenoldebau ar gyfer pob aelod o staff a chadw manylion am bresenoldeb ac absenoldebau staff. Cwblhau'r ffurflenni priodol ac ardystio cywirdeb ceisiadau am dâl.
  • Rheoli amserlen a rhaglen waith athrawon llanw yn unol â'r galw a gweinyddu'r trefniadau cyflenwi dyddiol.
  • Gweinyddu'r drefn o wirio dogfennaeth pob aelod o staff ar gyfer 'Gyrru ar Fusnes Ysgol'.
  • Cwblhau cyfrifiad blynyddol PLASC a'i anfon i'r swyddogion priodol, gan gynnwys adroddiadau SWAC a PLASC ôl-16.
  • Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i'r Corff Llywodraethol, y Cynulliad, yr Awdurdod Addysg, y Cwmni Gyrfa, ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.
  • Cydlynu trefniadau bysiau mini ar gyfer myfyrwyr sy'n mynychu'r coleg, gan sicrhau amserlenni cywir a chyfathrebu a darparwyr trafnidiaeth.

Systemau Rheolaethol
  • Cynhyrchu danfon a derbyn adroddiadau CTF's ar gyfer disgyblion sy'n trosglwyddo, gan sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth â gofynion diogelu data.

Arholiadau allanol:
  • Bod yn bresennol wrth i'r canlyniadau gael eu derbyn gan yr ysgol a chael eu trosglwyddo i'r ymgeiswyr gan gydweithio â'r Pennaeth er mwyn paratoi'r canlyniadau.

Defnydd o'r Adeilad
  • Cydlynu defnydd cymunedol o'r ysgol.
  • Gosod yr ysgol - trefnu anghenion y defnyddwyr, presenoldeb y gofalwr, anfon biliau a derbyn taliadau.

Adeiladau
  • Mewn ymgynghoriad â'r UDRh a'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu â swyddogion yr Adran Eiddo a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yn yr ysgol.

Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth neu'r Dirprwyon.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi