MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 4

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA

(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2026.
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4 / GORUCHWYLIWR GWERSI

Swydd dros dro - tan 31/08/2027 yn y lle cyntaf.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.

Bydd yn ofynnol i chi weithio 39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £21,819 - £24,099 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mrs Kelly Morgan (Rhif ffôn 01248 600291).

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais ar gael gan Mrs Kelly Morgan, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd (Rhif Ffôn:01248 600291)

e-bost: rhb@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU; HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 6ED O FAI, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

-

Swydd Ddisgrifiad

Cyfrifoldebau'r swydd
  • Goruchwylio gwersi athrawon sy'n absennol. Gall rhain fod yn absenoldebau wedi eu cynllunio o flaen llaw, neu'n absenoldebau na ellir eu rhagweld.
  • Cynorthwyo myfyrwyr gyda'u gwaith. Addysgu gwahanol bynciau i fyfyrwyr yn y cwricwlwm gan gynorthwyo'r disgyblion i gwblhau'r tasgau a ddarparir, a'u cefnogi i ddeall y pwnc.
  • Rheoli ymddygiad disgyblion yn absenoldeb yr athro. Sicrhau bod y dosbarth yn gynhyrchiol a bod gan fyfyrwyr amgylchedd dysgu gadarnhaol.
  • Ymdrin ag unrhyw argyfyngau yn yr ystafell ddosbarth yn unol â pholisïau'r ysgol.
  • Cofnodi ac adrodd unrhyw bryderon yn ymwneud â materion diogelu, iechyd a diogelwch neu bryderon cyffredinol am ddisgyblion trwy ddefnyddio systemau'r ysgol.
  • Cefnogi disgyblion ac athrawon mewn gwersi fel Cymhorthydd Cefnogi Dysgu yn ôl yr angen.
  • Cefnogi grwpiau bach o ddisgyblion mewn sesiynau ymyrraeth penodol.
  • Goruchwylio disgyblion tu allan i gyfnodau gwersi.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi