MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun: Pennaeth adran
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £47,952 - £47,952
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Pennaeth TEL (Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg)

Pennaeth TEL (Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg)

Coleg Caerdydd a'r Fro
Teitl y Swydd: Pennaeth TEL (Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg)

Contract: Parhaol, amser llawn

Cyflog: £47,952



Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gyfer Pennaeth Dysgu wedi’i Wella gan Dechnoleg (TEL). Bydd y rôl hon, a fydd yn adrodd wrth y Deon Ansawdd, yn gyfrifol am gynorthwyo’r Coleg i foddhau Safonau Digidol 2030, gan weithio i drawsnewid dysgu ac addysgu a siwrnai’r dysgwr, a helpu i greu pobl fedrus a chyflogadwy. Ymhlith y cyfrifoldebau eraill bydd:



Darparu arweinyddiaeth ddynamig ac effeithiol ar gyfer TEL
Rheoli a gyrru pob prosiect TEL ar draws y Coleg, gan gynnwys dogfennaeth a chynllunio cynnal a chadw i sicrhau dull gwella parhaus ar gyfer addysgu e-ddysgu’r Coleg
Cefnogi gwaith cynllunio a chyflawni hyfforddiant TEL o safon uchel ar gyfer y staff
Sefydlu a datblygu deunyddiau e-ddysgu ar gyfer defnydd masnachol a chwricwlwm, gan weithio gyda phartneriaid cyflenwi os bydd angen i gael edrych ar welliannau posib, a chostio a phennu hyd a lled y prosiectau hyn yn unol â hynny
Datblygu canllawiau, safonau, proses a thempledi ar gyfer datblygu a chynnal a chadw TEL
Cyflawni’r budd gorau o fuddsoddi ar gyfer gweithgareddau TEL, yn unol â chyllidebau cysylltiedig y Coleg
Cyflwyno bidiau prosiectau i sicrhau arian allanol (yn ôl fel y bydd hynny’n briodol) i gefnogi datblygiadau a gwaith prosiect arloesol yn ymwneud â TEL


Bydd rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn addysg i lefel gradd neu gyfwerth, ynghyd à TAR neu Dystysgrif Addysg yn ddelfrydol. Bydd rhaid bod profiad rheoli ganddo/ganddi hefyd, o fewn sefyllfa addysgol yn ddelfrydol ynghyd â record lwyddiannus o gynhyrchu atebion dysgu creadigol gan ddefnyddio cyfuniad o becynnau meddalwedd gan gynnwys Office 365. Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau rheoli prosiectau cryf ac yn deall yn dda y pwysau allanol a’r cyfleoedd o fewn cyd-destun e-ddysgu. Bydd yn ddymunol iawn bod yn gallu siarad Cymraeg.


JOB REQUIREMENTS
Manyleb y Person – Sgiliau (Cymwyseddau a Doniau)
23. Yn gallu crynhoi a dehongli materion cymhleth, cysyniadol ac arbenigol gan ddefnyddio ystod o arddulliau a chyfryngau a ddewisir i foddhau anghenion cynulleidfa amrywiol
24. Sgiliau cynllunio a threfnu o safon uchel, yn gallu ymdopi â blaenoriaethau croes i’w gilydd ar draws ystod amrywiol o randdeiliaid

25. Yn cynllunio, blaenoriaethu a threfnu gwaith er mwyn cyflawni’r amcanion o fewn terfynau amser

26. Yn cydweithredu yn rhan o dîm a, lle y bydd hynny’n briodol, ar draws neu gyda grwpiau proffesiynol gwahanol a fydd ag agendâu a blaenoriaethau a fydd yn cystadlu â’i gilydd

27. Yn gallu defnyddio menter neu greadigrwydd i ddatrys problemau mewn ffyrdd arloesol

28. Sgiliau rheoli prosiectau

29. Dealltwriaeth gryf o’r pwysau allanol a’r cyfleoedd o fewn cyd-destun e-ddysgu

30. Yn gallu siarad Cymraeg (dymunol)
Manyleb y Person – Profiad Blaenorol a Gwybodaeth am y Swydd
31. Profiad o reoli, yn ddelfrydol mewn lleoliad addysg neu hyfforddiant

32. Profiad o gynhyrchu atebion dysgu creadigol gan ddefnyddio cyfuniad o becynnau meddalwedd, gan gynnwys Office 365
33. Profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol
34. Profiad sylweddol o ddatblygu adnoddau e-ddysgu i’w defnyddio mewn amgylchedd dysgu rhithiol
35. Record lwyddiannus o ran meddalwedd a systemau ar lefel weinyddol/rheoli
36. Profiad o ddylanwadu ar benderfyniadau pobl eraill, gan ragweld ac amlygu opsiynau a phroblemau y bydd angen eu hystyried a chyflwyno atebion i gael cyrraedd y nod terfynol
37. Profiad mewn rôl cyflenwi gwasanaethau gan reoli prosiectau perthnasol er mwyn sicrhau boddhad cwsmeriaid
Manyleb y Person – Addysg a Chymwysterau
38. Wedi derbyn addysg i lefel gradd neu gyfwerth, ynghyd â TAR neu Dystysgrif Addysg yn ddelfrydol

39. Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn enwedig yn y meysydd canlynol:
• TEL
• Rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu, gan gynnwys strategaethau cyflawni arloesol
• Rheolaeth ac arweinyddiaeth
Gofynion eraill
40. Bydd y rôl yn gofyn bod deiliad y swydd yn teithio’n aml rhwng pob un o safleoedd y Coleg ac felly bydd angen bod ganddo/ganddi drwydded yrru lawn
41. Bydd gofyn bod deiliad y swydd yn gweithio patrymau shifft er mwyn cwrdd ag anghenion y busnes craidd gyda’r hwyr ac ar y penwythnosau