MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: L16 - L20
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Pennaeth

Cyngor Wrecsam

Cyflog: L16 - L20

Ynglŷn â'r Rôl
Dirprwy Bennaeth, Ysgol Morgan Llwyd

I GYFAWNI DYLETSWYDDAU PROFFESIYNOL DIRPRWY BENNAETH YN UNOL Â NODAU, AMCANION A PHOLISÏAU YSGOL MORGAN LLWYD A HYNNY O DAN GYFARWYDDYD Y PENNAETH.

Bydd y Dirprwy Bennaeth, yn ogystal â chyflawni dyletswyddau proffesiynol athro/awes ôl-drothwy (gweler swydd-ddisgrifiad athro/awes ôl-drothwy), gan gynnwys y dyletswyddau penodol a roddir iddo/i gan y Pennaeth, yn:

Chwarae rhan flaenllaw o dan gyfarwyddyd y Pennaeth wrth:

• sefydlu nodau ac amcanion yr ysgol
• sefydlu'r polisïau ar gyfer eu gwireddu
• rheoli staff ac adnoddau i'r diben hwnnw
• monitro cynnydd tuag at eu cyflawni

Gweithredu ar unrhyw ddyletswydd proffesiynol o eiddo'r Pennaeth a roddir iddo/i yn rhesymol gan y Pennaeth.

Atebol i'r Pennaeth ac yn gyfrifol am yr ysgol yn ystod absenoldeb y Pennaeth.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Cyfeiriad Strategol
• Cyfrannu at a mynegi egwyddorion craidd yr ysgol a'r Uwch Dîm Rheoli
• Darparu arweiniad strategol cryf ar faterion bugeiliol, gan sicrhau bod trefniadau lles, ymddygiad a diogelu yn cael eu cynllunio, eu gweithredu a'u gwerthuso'n effeithiol ar draws yr ysgol
• Hyrwyddo'r weledigaeth addysgol o fewn Ysgol Morgan Llwyd ar gyfer 2026-27
• Chwarae rhan ganolog ym mhrosesau hunan arfarnu, monitro a chynllunio datblygiad yr ysgol
• Cydweithio gyda gweddill yr Uwch Dîm Rheoli er mwyn datblygu systemau, trefnau a gweithrediadau penodol wrth ymateb i'r anghenion sydd wedi'u hadnabod
• Sicrhau gofal a lles pob disgybl - yn gorfforol, yn emosiynol ac yn academaidd - gan alluogi pob disgybl i gyflawni eu llawn botensial
Arwain ar Faterion Bugeiliol
• Arwain yn strategol ac yn weithredol ar bob agwedd o faterion bugeiliol o fewn yr ysgol, gan sicrhau bod lles, diogelu a chynhwysiant disgyblion wrth wraidd pob penderfyniad arwain.
• Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am ymddygiad disgyblion, gan ddatblygu, gweithredu a monitro polisïau ymddygiad effeithiol sy'n hyrwyddo disgwyliadau uchel a diwylliant cadarnhaol ar draws yr ysgol.
• Arwain, rheoli a chefnogi Penaethiaid Blwyddyn, gan sicrhau cysondeb, atebolrwydd ac effeithiolrwydd mewn trefniadau bugeiliol ar draws pob blwyddyn.
• Goruchwylio ac arwain systemau bugeiliol yr ysgol, gan gynnwys presenoldeb, ymyriadau ymddygiadol, system wobrwyo gadarnhaol, cefnogaeth emosiynol a gwaith yr Hwb Fugeiliol.
• Monitro, gwerthuso a datblygu effeithiolrwydd darpariaeth fugeiliol yr ysgol drwy ddefnyddio data, tystiolaeth ac adborth, gan sicrhau gwelliant parhaus mewn ymddygiad, lles a chynnydd disgyblion.
• Cydweithio gydag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg o fewn Wrecsam er mwyn sicrhau proses drosglwyddo effeithiol, gan roi sylw penodol i anghenion bugeiliol disgyblion sy'n pontio.

Datblygu a Gweithio Gydag Eraill

• Cefnogi'r Pennaeth ac aelodau eraill yr Uwch Dîm Rheoli drwy gynnig arweiniad clir i ddatblygiad yr ysgol
• Arwain a datblygu gweledigaeth gref ar gyfer materion bugeiliol a lles disgyblion gan gynnwys trosglwyddo.
• Arwain y tîm bugeiliol gan gynnwys y Penaethiaid Blwyddyn a staff yr Hwb Fugeiliol
• Caniatáu a sicrhau cysondeb o ran trefniadau bugeiliol ar draws pob cyfnod allweddol
• Sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol, annog arfer da a chynnal ac arwain athrawon a staff eraill
• Trefnu a chymryd rhan mewn hyfforddiant staff, yn enwedig mewn meysydd megis lles, diogelu, ymddygiad a chynhwysiant.

Rheoli'r Ysgol
• Arwain yn strategol ac yn weithredol ar faterion bugeiliol o fewn yr ysgol
Goruchwylio polisïau a gweithdrefnau lles, diogelu, ymddygiad, presenoldeb a phrydlondeb
• Sicrhau bod trefniadau cymorth bugeiliol yn cefnogi anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol disgyblion
• Cydweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol er budd diogelu a lles disgyblion
• Cyfrannu at benderfyniadau rheolaethol ar bob agwedd ar bolisi, datblygiad a threfniadaeth yr ysgol
• Cynnal a datblygu rheolau ymddygiad a gwisg ysgol, gan hyrwyddo disgwyliadau uchel a chynhwysol
• Cynllunio, trefnu a chadeirio cyfarfodydd yn ôl yr angen
• Adrodd i'r Llywodraethwyr, lle'n briodol, i'w cynorthwyo yn eu rôl o gael trosolwg o reolaeth yr Ysgol

Sicrhau Atebolrwydd
• Datblygu, trefnu a sicrhau atebolrwydd cyd-weithwyr yn eu gwaith, gan hyrwyddo diwylliant o uchelgais, cefnogaeth a gwelliant parhaus
• Cyfrannu at ddatblygiad rhagoriaeth ar draws yr ysgol a chefnogi'r gymuned ysgol gyfan i baratoi, cynllunio a gweithredu tuag at welliant cynaliadwy
• Sicrhau bod trefniadau atebolrwydd yn adlewyrchu anghenion academaidd a bugeiliol disgyblion
• Arwain a chadeirio cyfarfodydd er mwyn craffu ar berfformiad academaidd, monitro effeithiolrwydd cynllunio, dysgu ac addysgu, asesu, a monitro safonau a lefelau rhagoriaeth
• Defnyddio data a thystiolaeth yn bwrpasol i lywio penderfyniadau strategol a gweithredol, gan ganolbwyntio ar gynnydd a lles disgyblion

Cryfhau'r Ffocws Cymunedol
• Cysylltu â rhieni a gofalwyr lle'n briodol, gan hyrwyddo partneriaeth gadarnhaol a thryloyw rhwng yr ysgol a'r cartref, yn enwedig mewn materion bugeiliol a lles
• Sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda rhieni mewn sefyllfaoedd sensitif neu heriol
• Datblygu a chynnal cysylltiadau y tu hwnt i'r ysgol, gan weithio gydag asiantaethau, ysgolion eraill a'r gymuned ehangach er mwyn rhannu a datblygu arfer dda
• Cefnogi gweledigaeth yr ysgol fel canolbwynt cymunedol cadarnhaol
• Mynychu a chefnogi digwyddiadau ysgol-gyfan, gan gryfhau ymdeimlad o berthyn ac ymgysylltiad

Eraill
• Mynychu cyfarfodydd yn unol â chalendr yr ysgol a chyfrannu'n weithredol at waith yr Uwch Dîm Rheoli
• Rhoi sylw dyledus i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, gan weithredu'n llawn yn unol â pholisïau a gweithdrefnau diogelu'r ysgol
• Bod yn Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'n Ddirprwy, os yn briodol, a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol
• Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth yn ei absenoldeb, gan sicrhau parhad arweinyddiaeth, trefn a gofal bugeiliol
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau proffesiynol eraill a ddirprwyir gan y Pennaeth, yn unol â natur y rôl a blaenoriaethau'r ysgol

Er y cymerir pob gofal i egluro prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, ni fydd pob tasg unigol wedi ei rhestru. Disgwylir i staff gytuno i gais rhesymol gan reolwyr i ymgymryd â thasg o lefel gyfatebol sydd heb ei rhestru yn y swydd ddisgrifiad hon. Bydd union gyfrifoldebau'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei drafod gyda'r unigolyn yn dilyn penodiad.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Cychwyn Medi 2026 neu gynharach

Dyddiad Cau, Dydd Gwener 15/5/2026

Cyfweliadau 20-21/5/2026
Amdanom Ni
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Agorwyd yr ysgol yn gyntaf yn 1963 ar gyfer llond llaw o ddisgyblion. Bellach mae dros 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 20% o ddisgyblion yn gymwys am PYD. Bydd oddeutu 30% o'n disgyblion yn parhau i astudio yn y chweched.
Mae 5 aelod ar yr uwch dîm rheoli presennol, y Pennaeth, 2 Ddirprwy Bennaeth a 2 Pennaeth Cynorthwyol. Mae 55 athro a 77 aelod o staff yn gyfan gwbl yn gweithio yn Ysgol Morgan Llwyd.

Rydym yn ysgol gynhwysol ac yn angerddol dros sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle y gallwn i'n ddisgyblion i lwyddo. Mae ffocws cadarn wedi ei roi dros y 5 mlynedd diwethaf yn sicrhau fod y gefnogaeth a roddwyd i'n disgyblion yn gynhwysfawr, yn addas ac yn effeithiol. Braf iawn oedd derbyn clod gan Estyn am ein gwaith gyda'r Hwb Bugeiliol a'r Hwb Dysgu yn ystod ein harolwg diweddar iawn. Ysgol Morgan Llwyd | Estyn (llyw.cymru).

Am ragor o wybodaeth am yr ysgol ewch i: www.ysgolmorganllwyd.cymru