MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gorllewin Mynwy

Torfaen Local Authority

Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4

30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn

Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol lwyddiannus i ddisgyblion 11 - 16 oed. Rydym yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 hynod gymhellol a medrus.

Bydd yr oriau gwaith dan gontract yn 30 awr yr wythnos. Mae'r gofynion allweddol ar gyfer pob swydd yn cynnwys:
  • y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, gan fabwysiadu dull hyblyg yn ôl yr angen
  • sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys TG
  • Lefel 2 Saesneg a Mathemateg
  • sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol
  • dealltwriaeth ardderchog o sut i gefnogi addysgu a dysgu yn effeithiol
  • dealltwriaeth dda o sut i gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol
  • y gallu i gefnogi anghenion gofal personol dysgwyr mewn modd sensitif yn ôl yr angen

Dyddiad Cau: Dydd Iau 7fed Mai 2026 am 11.59 pm

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.