MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Machynlleth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: ISR: 12 – 16 (Grwp 5a)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: ISR: 12 – 16 (Grwp 5a)
Dirprwy Bennaeth (Ysgol Bro Hyddgen)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol i ymuno â'r ysgol pob oed hon ym Maldwyn, yng ngogledd orllewin Powys. Lleolir yr ysgol hon yn nhref Machynlleth, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Rhagfyr 2024, yn datgan bod 'perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng disgyblion ac athrawon Ysgol Bro Hyddgen yn gryfder nodedig. O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac mae'r parch a ddangosant at staff yn glodwiw'. Yn sicr, mae'r ysgol yn gymuned ofalgar a theuluol.
Mae bod yn rhan o dîm Ysgol Bro Hyddgen yn golygu gweithio mewn awyrgylch gymunedol lle mae gonestrwydd a thryloywder yn egwyddorion creiddiol. Mae bod yn driw i'r tim yn Ysgol Bro Hyddgen yn allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn cyd-symud yn effeithiol i
gyflawni'r gorau gyda'n gilydd. Credwn yn gryf fod cyfranogiad pob aelod o'n cymuned yn greiddiol i sicrhau ysgol hapus a ffyniannus a theimlwn gyfrifoldeb a balchder tuag at ein cymuned ar bob achlysur.
Dyma gyfle unigryw i unigolyn, sydd eisiau datblygu a meithrin profiad eang o arweinyddiaeth mewn ysgol sydd yn trawsnewid. Mae'r ysgol eisoes wedi cychwyn ar ei thaith ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg ac mae cynlluniau gan yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod adeilad newydd sbon, ar un safle, yn y dyfodol agos. Mae cyfle felly i hyrwyddo
rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau ein disgyblion a'n cymuned.