MANYLION.
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £25,062 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Tim Swyddogion Cymunedol a Chefnogi Teuluoedd

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £25,062 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Rydym yn dymuno penodi unigolyn profiadol, ac ymroddedig i'r rôl o Arweinydd Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd. Mae'r swydd hon yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi cenhadaeth ehangach y gwasanaeth addysg i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ymgysylltu effeithiol â theuluoedd a chymunedau.

Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ac weithredol i Dîr Gymuned a Theuluoedd, gan sicrhau bod cymorth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu yn unol â blaenoriaethau addysgol a chyfrifoldebau statudol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n agos gyda ysgolion, gwasanaethau addysg, asiantaethau allanol a phartneriaid cymunedol i gryfhau ymgysylltiad, dileu rhwystrau i ddysgu a hyrwyddo profiadau addysgol cadarnhaol i blant a phobl ifanc.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ellen Rowlands ar 01286 679007

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

Ebost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O'R GLOCH, 01/05/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaid d.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, (ysgrifenedig, clywedol a chyflwyniadol)

Y gallu i gyflwyno gwybodaeth yn glir a chynhyrchu adroddiadau cryno i hysbysu, cefnogi a herio cydweithwyr i feddwl yn adeiladol.

Y gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith adeiladol gyda chydweithwyr o gefndiroedd a sefydliadau amrywiol

Y gallu i gysylltu agendâu i weld y modd y mae cyflwyno gwasanaethau yn datblygu o fewn fframwaith strategol.

Yn agored i herio a derbyn syniadau newydd a ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau - byddwch yn edrych ymlaen nid yn ôl, a byddwch ac yn gallu herio eraill mewn modd adeiladol

Y gallu i weithio'n annibynnol, defnyddio'ch menter eich hun a bod yn rhagweithiol wrth roi cynlluniau cytunedig ar waith..

Y gallu i fod yn hyblyg ac i gydweithio

Y gallu i gyflwyno ar gyfer amrywiaeth o gyfarfodydd ac ystod o gynulleidfaoedd.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster proffesiynol perthnasol mewn addysg, ymddygiad neu waith

Ieuenctid (neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall) ar lefel

uwch/arbenigol.

Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o'r system addysg yng Nghymru

Gwybodaeth gadarn o'r problemau y mae disgyblion a theuluoedd o

gefndiroedd heriol yn eu hwynebu

Gwybodaeth gadarn o beth yw buddion gweithio mewn partneriaeth effeithiol
Dymunol
-
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o arwain staff

Dealltwriaeth o'r gwasanaethau cymorth arbenigol sydd ar gael i blant a theuluoedd yn Ngwynedd

Profiad o weithio mewn lleoliad addysgol a/neu brofiad amlwg o weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd.

Profiad o weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth.

Profiad o ddatblygu a chynnal partneriaeth effeithiol gydag asiantaethau statudol ac eraill

Y gallu i herio mewn ffordd broffesiynol

Cyflwyno gwybodaeth gymhleth a rheoli gwrthdaro proffesiynol a sefydliadol

Profiad o baratoi adroddiadau ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd gan gynnwys ysgolion, disgyblion, teuluoedd, y trydydd sector ac asiantaethau statudol

Profiad o weithio mewn rôl sy'n gofyn am wybodaeth a sgiliau diogelu rhagorol Sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu drwy ymateb yn effeithlon ac yn effeithiol

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhieni a theuluoedd, asiantaethau partner, gweithwyr proffesiynol a staff ar bob lefel

Y gallu i asesu anghenion plant a'u teuluoedd ac i weithio gydag asiantaethau eraill i lunio pecynnau cymorth.

Y gallu i greu perthnasoedd adeiladol â rhieni, gofalwyr a staff.

Y gallu i ddatblygu a chynnal cysylltiadau agos a gweithio'n effeithiol gyda staff o asiantaethau eraill.

Y gallu i gasglu gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau.

Sgiliau cynllunio a threfnu da gydag ymagwedd hyblyg tuag at y dasg o reoli gwaith
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Profiad o weithio gyda theuluoedd i wella deilliannau ar gyfer plant

Gwybodaeth am ystod o faterion sy'n berthnasol i addysg a datblygiad plant

Wedi mynychu ystod o gyrsiau hyfforddi arbenigol perthnasol i ddatblygu'ch gwybodaeth am broblemau sy'n effeithio ar blant a'u teuluoedd a'r ffordd orau o'u rheoli.

Dealltwriaeth drylwyr o Ddeddfwriaeth Amddiffyn Plant ac wedi'i hyfforddi i ddelio â phroblemau Amddiffyn Plant.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Cynllunio strategol, creu a gweithredu cynllun busnes ar gyfer cyflwani amcanion Swyddogion Teulu Ysgolion Cymunedol .

• Diben y swydd fydd cefnogi ysgolion, ac ysgolion sy'n rhan o glwstwr, i adnabod adnoddau'r gymuned fydd o gymorth i ddisgyblion a'u teuluoedd, a sut y gall adnoddau'r ysgol fod o gymorth i'r gymuned.

• Trwy weithio'n agos â lleoliadau ysgol, gwasanaethau'r Cyngor, cymunedau a phartneriaid trydydd sector, bydd deiliad y swydd yn mynd i'r afael â phroblemau er budd y rheiny sydd dan anfantais a'r gymuned ehangach.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Rheolwr llinell Swyddogion Ymgysylltu a'r Gymuned a Theuluoedd

• Cyllid - Rheoli cyllid grant mewn perthynas a'r swyddi

• Gliniadur

• Ffon symudol
Prif ddyletswyddau
• Darparu cyngor a chefnogaeth i aelodau tîm a'u galluogi i ddarparu'r gwasanaeth mewn modd effeithiol ac yn unol â chynllun busnes y prosiect, targedau ac arfer orau.

• Goruchwylio materion perfformiad a phersonél aelodau tîm yn unol â pholisi a gweithdrefnau

• Cynllunio ac arwain ar weithrediad rhaglenni a gwasanaethau ansawdd uchel yn unol â'r fframwaith Ysgolion Bro (YB)

• Gweithio gyda Uwch Dîm Arweinyddiaeth Ysgolion i ymdrin â materion ymgysylltu gyda'r gymuned, teuluoedd a disgyblion

• Datblygu cynllun ymgysylltu cymunedol (CYC), mapio rhanddeiliaid allweddol a dod o hyd i ffyrdd y gallai gweithio mewn partneriaeth fod o fudd i'r ysgol, disgyblion a'r gymuned

• Datblygu neu gyfuno gyda strwythur partneriaeth i ddatblygu strategaethau ar y cyd gydag asiantaethau eraill fel gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, swyddogion lles addysg, yr heddlu, trydydd sector, chwaraeon a hamdden, llyfrgelloedd, dysgu oedolion, blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a'r sector gwirfoddol ac ati.

• Cefnogi'r adolygiad o gynllun yrYB / CYC drwy gydlynu casglu data a chynhyrchu adroddiadau ar gyfer rhanddeiliaid eraill.

• Adnabod ffrydiau ariannu grant posib a sicrhau grantiau i gefnogi datblygiad parhaus yr YB.

• Cynllunio cefnogaeth briodol ar gyfer plant o gefndiroedd difreintiedig a'r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig, PMG neu fregusrwydd arall.

• Sefydlu cyswllt cartref-ysgol agos rhwng teuluoedd ac ysgolion i eirioli ar ran yr unigolion a'u teuluoedd trwy gyfathrebu sefyllfaoedd ac anghenion i'r ysgol yn ogystal ag annog ymyraethau i gyrraedd datrysiadau cadarnhaol.

• Cynllunio ar gyfer datblygu mwy o ddefnydd cymunedol o gyfleusterau'r ysgol lle bo'n briodol. Gallai hyn gynnwys addysg oedolion, cyfleoedd diwylliannol neu chwaraeon a hamdden. Datblygu cyfleoedd i gyfoethogi'r diwrnod ysgol drwy glybiau brecwast / ar ôl ysgol.

• Cyfathrebu'n rheolaidd ag ysgolion a phartneriaid mewnol ac allanol gan ddefnyddio amryw o ddulliau gweithredu.

• Gweithio'n agos gyda rheolwyr mewn awdurdodau eraill i rannu ymarfer dda a chynyddu effeithiolrwydd.

• Cefnogi'r dasg o ddatblygu rhaglenni dysgu proffesiynol ar gyfer aelodau staff Ysgolion, Swyddogion Ymgysylltu a'r Gymuned a Theuluoedd, partneriaid mewnol a theuluoedd.

• Cyd-lynu astudiaethau achos, storïau llwyddiant ac unrhyw wybodaeth sydd angen ei raedaru ar y cyfryngau cymdeithasol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi