MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: G10 Pt 38-41 £49,282 - £52,413
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: G10 Pt 38-41 £49,282 - £52,413
YSGOL EIRIASFfordd Eirias
Bae Colwyn
LL29 7SP
Pennaeth: Mrs Zoe Evans
Ffôn: 01492 532025
Ebost: general@eirias.conwy.sch.uk
Yn eisiau erbyn Gorffennaf 2026
Rheolwr Busnes
(Parhaol / Llawn amser)
NJC
37 awr yr wythnos
Cyflog: G10 Pt 38-41 £49,282 - £52,413
Yn Ysgol Eirias, rydym yn edrych i benodi Rheolwr Busnes Ysgol i fod yn rhan sylfaenol o'n gweithrediadau ehangach. Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo gweithrediadau ariannol o fewn awyrgylch cefnogol er budd y staff a'r myfyrwyr.
Trosolwg o'r Swydd
Byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad strategol yr ysgol, gan gymryd rôl arweiniol yng nghyllid, rheolaeth a gweinyddiaeth y safle, ynghyd ag adnoddau dynol. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r Brifathrawes i reoli'r gyllideb a strategaethau caffael, ac i oruchwylio rhedeg dydd i ddydd yr ysgol a swyddogaethau busnes yr ysgol.
Gofynion y Swydd
• Llwyddiant profedig fel Rheolwr Busnes Ysgol neu mewn rôl debyg, ynghyd â chymhwyster perthnasol mewn cyfrifeg/cyllid a/neu radd rheoli neu fusnes a gydnabyddir.
Pam ymuno â ni?
Fel aelod hanfodol o'r Tîm Rheoli yn Ysgol Eirias, byddwch yn rhan o ddiwylliant ymroddedig gyda chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn chwarae rôl sylweddol yn ein datblygiad cyffredinol a'n gweithrediadau dydd i ddydd, gan gyfrannu at sicrhau effeithiolrwydd ac at fywyd ehangach yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am uwch ddatgeliad gan
y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Anogir darpar ymgeiswyr yn gynnes i ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais. Gellir trefnu ymweliadau trwy gysylltu â Mrs Sarah Noke, Cynorthwyydd Personol i'r Pennaeth, yn general@eirias.conwy.sch.uk neu ar rif yr ysgol 01492 532025.
Sut i ymgeisio :
Ymwelwch a www.eirias.co.uk a clicio ar y dudalen swyddi gwag i gael linc ar-lein drwy Eteach
Dyddiad cau ceisiadau : 9:00 y.b. ar 5 Mai 2026
Cyfweliadau : Wythnos yn cychwyn 11 Mai 2026
Swydd wedi ei gyhoeddi : 15 Ebrill 2026
Dyddiad dechrau : 6 Gorffennaf 2026
Cyswllt : Sarah Noke
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English