MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £52,680 - £58,136
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £52,680 - £58,136
Ynglŷn â'r RôlRydym yn chwilio i benodi Dirprwy Bennaeth i ddechrau ym mis Medi 2026 yn Ysgol Llan-y-pwll. Bydd hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd strategol, deinamig, medrus ac ysbrydoledig ymuno â'n tîm llwyddiannus mewn rôl newydd sbon. Mae Ysgol Llan-y-pwll yn gymuned falch a chroesawgar sy'n angerddol ynghylch gallu pob unigolyn i gyrraedd ei botensial a'i uchelgais, ac i ddatblygu'n aelodau hapus, hyderus, annibynnol ac atebol o'r gymdeithas. Dylai ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg ac yn dangos ymrwymiad cryf i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gyfrifol am addysgu un o ddosbarthiadau'r ysgol (bydd y grŵp blwyddyn yn cael ei drafod gyda'r ymgeisydd llwyddiannus). Fel Dirprwy Bennaeth, bydd hefyd yn cefnogi'r Pennaeth i arwain tîm ymroddedig a brwdfrydig, gan ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol i sicrhau bod yr ysgol yn parhau ar ei thaith ac yn darparu addysg o ansawdd uchel i'n holl ddisgyblion. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau'r Cydlynydd ADY (CADY). Bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i'r ysgol gynyddu mewn niferoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth lunio, sbarduno a chyflawni gwelliant ysgol gyfan, gyda ffocws penodol ar:
Addysgu a dysgu o ansawdd uchel
Arweinyddiaeth ac atebolrwydd cryf
Datblygiad a lles staff
Diogelu, cynhwysiant a chanlyniadau disgyblion
Hyrwyddo a chryfhau'r Gymraeg ar draws bywyd yr Ysgol
Bydd y Dirprwy Bennaeth yn ymgymryd â chyfrifoldebau arweinyddiaeth ysgol gyfan wedi'u dirprwyo, a bydd yn gweithredu fel Pennaeth yn ei habsenoldeb, fel y bo'n ofynnol gan y Corff Llywodraethu. Rydym yn dymuno penodi unigolyn rhagorol a fydd yn gallu gweithio'n agos gyda'r Pennaeth i wireddu'r weledigaeth o sicrhau bod pob disgybl yn llwyddo mewn cymuned ddysgu ofalgar, hapus a chynhwysol ble mae ymdeimlad cryf bod bob disgybl yn aelod o deulu mawr, clòs.
Mae hwn yn gyfle eithriadol i unigolyn uchelgeisiol fod yn rhan o ysgol weddol newydd sy'n tyfu ac yn ffynnu, ac i ymuno â ni ar daith gyffrous wrth i ni wella, arloesi a datblygu'n barhaus. Ym mis Medi 2026, bydd dysgwyr o'r dosbarth Meithrin hyd at Blwyddyn 4 yn yr ysgol.
Rydym yn chwilio am arweinydd a fydd yn:
Cefnogi'r Pennaeth wrth lunio, gweithredu ac adolygu gweledigaeth, ethos a blaenoriaethau strategol yr ysgol
Cymryd rôl arweiniol mewn meysydd dirprwyedig o gynllunio gwelliant ysgol, hunanarfarnu a pharodrwydd Estyn
Arwain a modelu addysgu a dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys datblygu'r cwricwlwm ac arferion asesu
Darparu arweinyddiaeth weithredol gadarn, gan sicrhau bod systemau a threfniadau'n cael eu gweithredu'n gyson
Rheoli a datblygu staff, gan arwain agweddau ar reoli perfformiad a dysgu proffesiynol
Hyrwyddo diwylliant lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn cael eu cefnogi, gydag uchelgais a chynhwysiant yn greiddiol i bob ymarfer
Defnyddio data'n effeithiol i fonitro cynnydd a sicrhau gwelliant cynaliadwy
Cefnogi a hyrwyddo datblygiad y Gymraeg
Byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n meddu ar:
Statws Athro Cymwysedig a hanes cryf o arweinyddiaeth uwch lwyddiannus
Profiad llwyddiannus diweddar fel Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol neu aelod o Dîm Arweinyddiaeth Uwch
Dealltwriaeth glir o arweinyddiaeth a rennir, atebolrwydd a llywodraethu
Dealltwriaeth gadarn o'r Cod ADY ac o rôl y CADY
Gwybodaeth gadarn am y Cwricwlwm i Gymru a Fframwaith Arolygu Estyn
Y gallu i ysbrydoli, cymell ac arwain eraill drwy uniondeb, cydweithio a disgwyliadau uchel
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, ac ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth
Pam ymuno ag Ysgol Llan-y-pwll?
Dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig
Tîm staff cefnogol ac ymrwymedig
Corff Llywodraethu gweithgar ac uchelgeisiol
Cysylltiadau cryf â'r gymuned leol ac ysgolion partner
Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant
Cyfle i fod yn rhan o daith gyffrous ysgol cyfrwng Cymraeg ddiweddaraf Wrecsam
Dyddiad Cyfweld: 18/05/26
Anogir ymweliadau â'r ysgol yn gynnes a gellir eu trefnu drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Ysgol Llan-y-pwll
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Llan-y-pwll, wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam, yn ardal Rhosnesni a Borras. Agorwyd yr ysgol yn 2022 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac fe symudodd i mewn i adeilad a oedd wedi'i foderneiddio ym Mawrth 2023. Erbyn hyn, mae 70 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn cynnwys disgyblion o'r Dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 3.
Bydd y niferoedd hyn yn cynyddu'n flynyddol wrth i ddosbarth ychwanegol gael ei ychwanegu bob blwyddyn, nes ein bod yn cynnig addysg i bawb hyd at Flwyddyn 6 ym Medi 2028. Felly, mae ein niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn.
Ymfalchïwn yn ein hadroddiad Estyn diweddar yn dilyn yr adolygiad yn Hydref 2025, pan roddwyd cydnabyddiaeth fod Ysgol Llan-y-pwll yn gymuned ddysgu ofalgar, hapus a chynhwysol, lle mae ymdeimlad cryf bod pob disgybl yn aelod o deulu mawr, clos.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Ysgol Llan-y-pwll yn ysgol ofalgar sy'n datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch lle mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.
About Us -Ysgol Llan-y-pwll
Ysgol Llan-y-pwll is a Welsh-medium primary school located in the city of Wrexham, in the Rhosnesni and Borras area. The school opened in 2022 with a small group of pupils and moved into a modernised building in March 2023. At present, there are 70 pupils on the register, including pupils from Nursery up to Year 3.
These numbers will increase annually as an additional class is added each year, until we provide education for all pupils up to Year 6 in September 2028. Therefore, our numbers are increasing each year.
We are proud of our recent Estyn report following the inspection in October 2025, when it was recognised that Ysgol Llan-y-pwll is a caring, happy and inclusive learning community, where there is a strong sense that every pupil is a member of a large, close-knit family.
Our vision is to ensure that Ysgol Llan-y-pwll is a caring school that develops ambitious and capable learners, in an environment where everyone is happy, safe, and eager to learn.