MANYLION.
  • Lleoliad: Llandrindod Wells,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £13.45 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Trefonnen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: £13.45 yr awr

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ysbrydoledig, gofalgar a chreadigol sydd yn gwneud dysgu'n hwyl i bawb.

Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol fro ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai trwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Haf Bwyd a Hwyl buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.

Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Canol Dydd i ymuno â'n tîm.

Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Canol Dydd a fydd:
  • yn ddibynadwy, yn effeithlon ac yn weithgar.
  • Yn goruchwylio a rhyngweithio â phlant yn ystod y cyfnod amser cinio - helpu, gwrando a bod yn garedig â phawb.
  • Yn annog cynhwysiant.
  • Yn sicrhau bod plant yn dychwelyd i'r dosbarth yn barod i ddysgu.
Mae hon yn rôl ran-amser:

5 awr yr wythnos - 1 awr y dydd (12 - 1 neu 12.30 i 1.30)

Gradd 3 Pwynt 3 i bwynt 4

Dyddiad cau: 4.5.26

Rhestr fer: 5.5.26

Cyfweliad: 12.5.26

Am fwy o wybodaeth cysylltwch âr ysgol ar 01597 822190 neu office@trefonnen.powys.sch.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS