MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £13.47 per hour
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo - Ysgol Gynradd Greenmeadow

Torfaen Local Authority

Cyflog: £13.47 per hour

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, brwdfrydig cyfeillgar sy'n llawn ysgogiad, i ymuno â'r Tîm Arlwyo Ysgolion. Eich rôl chi fydd cynorthwyo ym mhob rhan o'r gegin i gyrraedd y safonau gofynnol, gan gynnwys paratoi bwyd, gweini prydau blasus, glanhau'r gegin a'r neuadd fwyta, gweithredu'r tiliau arlwyo di-arian a gwybod rhywfaint am Reoliadau Diogelwch Bwyd.

Fel yr ymgeisydd llwyddiannus bydd gennych sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ddangos menter, byddwch yn chwaraewr tîm rhagorol, a bydd gennych safonau hylendid uchel. Bydd gofyn i chi fod â'r gallu a'r hyder i weithio a ffynnu mewn amgylchedd prysur.

Bydd gofyn i chi:
  • Gadw at weithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio â nhw.
  • Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol ar gyfer y swydd mewn unrhyw leoliad y mae'r Rheolwr Arlwyo yn teimlo ei fod yn addas.
  • Sicrhau ar bob adeg fod yr holl offer cegin yn cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gywir.

Bydd gofyn i chi gadw cofnodion llawn a chywir ym mhob llyfr/ar bob ffurflen yn unol â'r gweithdrefnau gweinyddol a osodwyd gan yr Adran Arlwyo.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Catherine Davies ar 01633 647484 neu Catherine.Davies@torfaen.gov.uk

Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad gwarantu bydd ag anableddau cael eu gwahodd gyfweliad, yr amod bod bodloni'r gofynion hanfodol l. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi drefnu ydym gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod gyfweliad.