MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: 26,403 - 27,694 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 26,403 - 27,694 *
Ynglŷn â'r rôlRydym am recriwtio LABSSA (Learning and Basic Skills Support Assistant) i ymuno â'n Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) am 22.2 awr yr wythnos, yn ystod y tymor, ar g ontract tymor penodol tan 21ain o Fai, 2027.
Bydd y swydd yn cynnwys ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd Ceredigion i gefnogi staff i gyflwyno safonau uchel o raglenni ymyrraeth effeithiol.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
- ymweld ag ysgolion i arsylwi a/neu darparu sesiynau ymyrraeth gyda disgyblion
- monitro a rhoi adborth ynghylch safonau'r ddarpariaeth ymyrraeth
- darparu cyngor a modelu strategaethau ac adnoddau priodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yn briodol er mwyn codi safonau a sicrhau cynnydd disgyblion
Rydym am recriwtio unigolyn sydd:
- â phrofiad o arwain ystod o ymyraethau Ceredigion o fewn ysgolion
- â phrofiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
- wedi mynychu a derbyn tystysgrif am fynychu mwyafrif y cyrsiau hyfforddi canlynol:
- Ymyrraeth Satpin / Trandep
- Ymyrraeth Cyfri Ceredigion
- Wedi mynychu ystod o'r cyrsiau hyfforddi canlynol:
- Ymyrraeth Dyfal Donc a/neu Ddarllen gyda dealltwriaeth
- Ymyrraeth Geiriaduron Personol
- Ymyrraeth Lego
- Ymyrraeth Cylchedau Synhwyraidd
- â diddordeb mewn gweithio tuag at y cymhwyster CALU lle nad yw hwn eisoes mewn lle
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Cathryn James - cathryn.james@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy