MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Caernarfon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £33,699 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,699 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn dymuno hysbysebu cyfle cyffrous ar gyfer swydd Cydlynydd Ymgysylltu a Chyfathrebu.
Bydd y rôl yn allweddol wrth gryfhau llais a chyfranogiad pobl ifanc ar draws y sir, gan arwain ar ddatblygu strategaethau ymgysylltu effeithiol a chynyddu gwelededd a dealltwriaeth o waith y Gwasanaeth.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gydlynu cyfathrebu mewnol ac allanol, rheoli cynnwys digidol a chyfryngau cymdeithasol, cefnogi ymgyrchoedd hyrwyddo, a sicrhau bod barn a phrofiadau pobl ifanc yn llywio datblygiad y ddarpariaeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol, trefnus ac angerddol dros waith ieuenctid, sydd â'r gallu i feithrin perthnasau cadarnhaol a chyfleu negeseuon yn glir ac yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Steffan Williams ar SteffanLlyrWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 04/05/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Ymroddiad cryf i hawliau, cyfranogiad a llais plant a phobl ifanc.
- Gallu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl ifanc, partneriaid a rhanddeiliaid.
- Agwedd gynhwysol ac empathig tuag at bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.
- Hunangymhelliant a'r gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm.
- Sgiliau trefnu a blaenoriaethu cryf gyda'r gallu i weithio o dan bwysau.
- Agwedd hyblyg a pharodrwydd i weithio oriau anghonfensiynol pan fo angen.
- Gwerthoedd cryf o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Gradd mewn Gwaith Ieuenctid neu ddisgyblaeth arall sy'n ymwneud ag Ieuenctid.
- TGAU mewn Cymraeg a Saesneg.
DYMUNOL
- NVQ lefel 4 neu gyfystyr mewn maes perthnasol megis marchnata, gweinyddiaeth, cyfryngau, cyfathrebu
- Wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel Gweithiwr Ieuenctid.
- Cymwysterau eraill sy'n berthnasol i Waith Ieuenctid.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o brosesau ymgynghorol a chyfranogol mewn gwaith gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc.
- Profiad o gynllunio, datblygu a chyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau ymgynghori.
- Dealltwriaeth gadarn o anghenion cyfranogiad pobl ifanc.
- Dealltwriaeth gadarn o hawliau/materion pobl ifanc.
DYMUNOL
- Profiad o gynhyrchu adroddiadau, gan gynnwys adroddiadau ariannol, sy'n adlewyrchu targedau gweithredol ac yn defnyddio data ac ystadegau allweddol i lywio cynnydd a chynllunio.
- Profiad o gynllunio a datblygu deunyddiau sy'n gyfeillgar i bobl ifanc megis dehongli strategaethau a chynlluniau.
- Gwybodaeth ymarferol o'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
- Gwybodaeth am weithdrefnau iechyd a diogelwch mewn lleoliad gwaith ieuenctid.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau hwyluso cryf gyda'r gallu i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd greadigol ac ystyrlon.
- Gallu i gasglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir a defnyddiol.
- Dealltwriaeth o egwyddorion cyfranogi plant a phobl ifanc a dulliau ymgysylltu da.
- Gwybodaeth o'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd yn anodd eu cyrraedd.
- Sgiliau trefnu prosiect a rheoli amser effeithiol.
- Hyfedredd mewn systemau TG a phecynnau meddalwedd safonol.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu, cydraddoldeb ac arferion gweithio diogel
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod llais plant a phobl ifanc Gwynedd, yn enwedig y rhai sy'n anodd eu cyrraedd, yn cael ei glywed a'i ystyried mewn penderfyniadau.
- Cefnogi datblygu strategaethau, polisïau a chynlluniau'r Cyngor drwy ddefnyddio barn a llais pobl ifanc.
- Cydlynu gweithgareddau ymgysylltu, chyfathrebu a cyfranodiad effeithiol gyda pobl ifanc ar draws Gwynedd.
- Cryfhau dulliau cyfranogi sy'n gynhwysol, hygyrch ac yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Gwynedd.
- Sicrhau bod y Cyngor yn bodloni gofynion cenedlaethol a lleol o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc.
- Defnyddio ymarferion Gwaith Ieuenctid drwy cwblhau hyfforddiant Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Cyllid Fforymau Ieuenctid
- Gliniadur
Prif Ddyletswyddau.
- Cynllunio a chyflwyno cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc ar draws Gwynedd drwy ymarferion gwaith ieuenctid
- Datblygu ac arwain gweithgareddau cwricwlwm ieuenctid cynhwysol, sy'n adnabod a gweithio gyda phobl ifanc o grwpiau dan gynrychiolaeth, gan sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob person ifanc yng Ngwynedd.
- Gweithio mewn partneriaid gyda pobl ifanc i sicrhau bod hawliau a barn yn llywio penderfyniadau y Cyngor. Casglu, dadansoddi a chyflwyno safbwyntiau - pobl ifanc mewn ffordd sy'n llywio penderfyniadau strategol y Cyngor.
- Datblygu sgiliau a gwybodaeth pobl ifanc ar hawliau (UNCRC).
- Gweithio'n mewn partneriaith gyda gwasanaethau'r Cyngor, ysgolion, partneriaid a sefydliadau cymunedol i gryfhau cyfleoedd cyfranogi.
- Cefnogi datblygiad fforymau, grwpiau neu strwythurau sy'n galluogi pobl ifanc i leisio barn yn rheolaidd.
- Datblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyfranogi i bobl ifanc.
- Sicrhau bod adborth clir yn cael ei roi i bobl ifanc ynghylch sut mae eu barn wedi dylanwadu ar benderfyniadau.
- Monitro ac adrodd ar effaith llais pobl ifanc.
- Cefnogi hyfforddiant a datblygiad staff a phartneriaid ar arferion ymgysylltu effeithiol gyda phobl ifanc.
- Sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â pholisïau diogelu, cydraddoldeb ac arferion gorau cyfranogi.
- Cefnogi'r gwaith o lunio a gweithredu cynllun cyfathrebu a chynllun ymgysylltu y Gwasanaeth Ieuenctid
- Cefnogi'r gwaith o hyrwyddo Rhaglen Gweithgareddau a Phrosiectau, Clwb Ieuenctid Gwynedd a'r Gwasanaeth Ieuenctid i ystod o gynulleidfaoedd mewnol (staff a chynghorwyr) ac allanol (pobl Gwynedd yn gyffredinol a grwpiau penodol yn ôl yr angen).
- Sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd dda ar gael i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu.
- Arwain ar ymgysylltu gydag ysgolion / sefydliadau a grwpiau er mwyn sicrhau cyfraniad a mewnbwn cynrhychiolaeth eang o blant a phobl ifanc Cyngor Gwynedd.
- Datblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc Gwynedd ymgyfarwyddo â'r drefn wleidyddol Lleol a Chenedlaethol.
- Hyrwyddo a chydlynnu'r broses o ymgysylltu gyda plant a phobl ifanc ar draws Gwynedd gan adrodd i grwpiau a phwyllgorau o fewn y Cyngor.
- Hwyluso pobl ifanc i feithrin eu sgiliau a'u hyder fel bod cyfranogiad a chyfraniad yn cael eu huchafu a'u bod yn gallu mynegi eu barn.
- Bod yn hyrwyddwr ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc, gan fabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person ifanc drwy Waith Ieunectid.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Ar adegau bydd disgwyl i ddeilydd y swydd fo ar gael ar nosweithiau a penwythnosau er mwyn mynychu digwyddiadau penodol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi