MANYLION.
  • Lleoliad: Llanwrtyd Wells,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Grŵp L7-13
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 26 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Dolafon)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Grŵp L7-13

Pennaeth (Ysgol Dolafon)
Swydd-ddisgrifiad

PENODI PENNAETH YSGOL DÔLAFON

Swydd barhaol amser llawn - ei angen/ei hangen ar gyfer Medi 2026

Grŵp L7-13

Nifer Ar y Gofrestr : 43

Mae'r swydd yn cynnwys ymrwymiad addysgu 3.5 diwrnod yr wythnos.

Ydych chi'n arweinydd profiadol gydag angerdd dros yrru rhagoriaeth addysgol a chyflwyno cwricwlwm eang, cytbwys gyda ffocws cryf ar ddysgu yn yr awyr agored? Mae'r llywodraethwyr yn ceisio penodi Pennaeth eithriadol i arwain ac ysbrydoli'r ysgol hon a gyrru'r ysgol ymlaen.

Fel Pennaeth, bydd eich arweinyddiaeth yn meithrin diwylliant cryf, cynhwysol o ddysgu, twf personol a lles, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd eu potensial llawn.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster CPCP ar gyfer swydd pennaeth.

Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn dod o hyd i'r canlynol:
  • Ysgol groesawgar, flaengar a deniadol wedi'i lleoli yn agos at dref farchnad Llanfair-ym-Muallt
  • Ysgol sy'n datblygu lefel uchel o ganlyniadau i ddysgwyr, sy'n dangos gwytnwch ar bob lefel ac sy'n cwrdd â'r her i symud ymlaen a chyflawni rhagoriaeth.
  • Ysgol hapus, lle mae'r plant yn ymddwyn yn dda, yn gweithio'n galed ac yn llawn cymhelliant i wneud eu gorau.
  • Amgylchedd cynhwysol gyda ffocws ar gyflawniad academaidd a gofalu am les disgyblion
  • Ysgol a reolir yn dda gydag ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau mawr.
  • Llywodraethwyr, rhieni a chymuned gefnogol a Chymdeithas Rhieni a Ffrindiau gweithgar.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos:
  • Sgiliau arweinyddiaeth strategol profedig sy'n ysgogi staff a disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn.
  • Sgiliau addysgu rhagorol, gan sicrhau safonau uchel a chysondeb darpariaeth addysgol o safon.
  • Gwybodaeth ac addysgu cadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Ymrwymiad i ddatblygu ymdeimlad o Gynefin a meithrin partneriaeth agos gyda'r ardal leol a'r gymuned.
  • Y gallu i nodi a datblygu datblygiad proffesiynol priodol ar gyfer yr holl staff
  • Cael disgwyliadau uchel o ddisgyblion a staff.
  • Y gallu i feithrin a datblygu partneriaethau agos rhwng disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni.
  • Profiad o reoli ariannol.
Byddem yn annog pob ymgeisydd i ymweld â'r ysgol cyn ymgeisio.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch ag: office@dolafon.powys.sch.uk

Dyddiad Cau: 26/04/2026

Llunio'r rhestr fer: 27/04/2026

Cyfweliadau i'w cynnal ar: 07/05/2026

Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).