MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon ynghyd â Lwfans ADY (£2,838 pro rata)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teacher 0.20 FTE (Centrally Funded) Autistic Spectrum Disorder

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon ynghyd â Lwfans ADY (£2,838 pro rata)

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002261 Dyddiad postio 02/04/2026 Dyddiad cau ceisiadau 16/04/2026 Cyflog Graddfa Gyflog Athrawon ynghyd â Lwfans ADY (£2,838 pro rata) Oriau gwaith 6.5 Ar sail Rhan amser Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD - Teacher Porth April 2026.doc JD 2026_CY-GB.doc

Teacher 0.20 FTE (Centrally Funded) Autistic Spectrum Disorder

Disgrifiad Swydd
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder Sbectrwm Awtistig) (0.20 CAL) yn Ysgol Gymuned Porth

Oriau: 6.5 awr yr wythnos (0.20 CAL)

Graddfa Gyflog Athrawon ynghyd â Lwfans ADY (£2,838 pro rata)

Dyddiad Dechrau: 1 Medi 2026

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro/athrawes â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistig yn Ysgol Gymuned Porth.

Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistig yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 8 disgybl o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a bydd yn cael ei staffio gan athro/athrawes a dau Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistig a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams: rachel.williams3@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 16 Ebrill 2026 at hanner nos.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.