MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Gradd 6 - £28,142 x 65.28%
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 3 - Ysgol Gynradd Dolau

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 6 - £28,142 x 65.28%

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002258 Dyddiad postio 03/04/2026 Dyddiad cau ceisiadau 24/04/2026 Cyflog Gradd 6 - £28,142 x 65.28% Oriau gwaith 27.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil TA L3_CY-GB.pdf TA L3.pdf

Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 3 - Ysgol Gynradd Dolau

Disgrifiad Swydd
HEOL PENYBONT, LLANHARAN, PONTYCLUN, RCT, CF72 9RP

CYNORTHWY-YDD DOSBARTH - LEFEL 3

ADRAN GYMRAEG

Oriau: Llawn amser 27.5 awr yr wythnos

Cyflog: Gradd 6 - £28,142 x 65.28%

Yn angen: mis Medi 2026, cyfnod mamolaeth

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Dolau yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu cyfrwng Cymraeg brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig i gefnogi disgyblion ar draws y Cyfnod Sylfaen/Camau Cynnydd 1, 2 neu 3. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â chymuned ysgol gefnogol, gynhwysol ac uchelgeisiol lle mae'r Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi a'i hyrwyddo drwy gydol bywyd bob dydd yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda thîm rhagorol, yn rhugl yn y Gymraeg ac:

  • yn gallu dangos egni, uchelgais, ymrwymiad a safonau uchel
  • yn cynorthwy-ydd dosbarth ysbrydoledig ac yn gallu cefnogi profiadau dysgu o ansawdd uchel
  • yn addasadwy ac yn arloesol
  • wedi ymrwymo'n gryf i weithio'n agos gydag athrawon, rhieni, y Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach
  • yn ddymunol, yn hawdd mynd ato ac yn anelu at ragoriaeth.
Yr Hyn a Gynigiwn
  • Cymuned ysgol gynnes, groesawgar a chydweithredol.
  • Disgyblion brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ymroddiad cryf i ddatblygiad proffesiynol.
  • Cyfleoedd i gefnogi a gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr ysgol gyfan.
Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gynradd Dolau a Chyngor Rhondda Cynon Taf yn ymrwymedig i ddiogelu a hybu lles plant ac oedolion sy'n agored i niwed. Disgwylir i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd yn ddarostyngedig i wiriad DBS uwch a chofrestru gyda'r Cyngor Gwaith Addysg (EWC).

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Ebril 2026

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.