MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/awes Mathemateg (Hyfforddi fel athro Uwchradd) - Ysgol Y Creuddyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2

Ysgol Y Creuddyn

Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Llandudno, Conwy, LL30 3LB

Ffôn: 01492 544 344

E-bost: swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

Athro / Athrawes Mathemateg (hyfforddi fel athro Uwchradd)

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd).

Contract dros dro hyd at 31/08/2028

Graddfa Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2

(£22,685- £25,322 y flwyddyn)

Mae Ysgol y Creuddyn yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli ym Mae Penrhyn, ger Llandudno. Ar hyn o bryd, mae 701 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys 99 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y ddarpariaeth, y gefnogaeth a'r profiadau gorau i'n dysgwyr o ran eu Dawn, eu Dysg a'i Daioni.

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, drwy bartneriaeth Y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.


Byddai unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol sydd yn angerddol ac yn arloesol mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru. Wrth ddod yn aelod o staff yn Ysgol y Creuddyn, rydych yn ymuno gyda thîm ac yn wir, teulu o bobl arbennig iawn. Y mae i'r ysgol gymuned a naws deuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae yma elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymysg y tîm o staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl hwy yn llwyddiant ac yn lles ein plant, ein pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.

Mae'r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad TAR arferol ac mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar gais.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Bethan Oliver-Jones, 01492 544344

Croesawir ceisiadau am sgyrsiau anffurfiol gyda'r Pennaeth yn ogystal â'r Pennaeth Adran perthnasol.

Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Mercher 15/04/2026 font-size:12pt">Dyddiad y cyfweliad: wythnos yn cychwyn 20/04/2026 font-size:12pt">Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English