MANYLION.
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £52,761- £55,857 y flwyddyn (Soulbury 8-11 +3 SPA)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Datblygu Cynhwysiant Addysg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £52,761- £55,857 y flwyddyn (Soulbury 8-11 +3 SPA)

Lleoliad gwaith: Coed Pella / Hybrid

Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swydd Swyddog Datblygu Cynhwysiant Addysg. Mae hwn yn gyfle gyrfa eithriadol i gyfrannu at y cynnig addysg yng Nghonwy ac i gyfrannu at y cynnig cymorth cynhwysiant addysg ar gyfer ysgolion yng Nghonwy. Mae'r rôl hon o Swyddog Datblygu Cynhwysiant Addysg wedi'i chreu mewn ymateb i'r angen cynyddol i gefnogi pobl ifanc sy'n profi anawsterau presenoldeb, osgoi ysgolion, neu ymddieithrio addysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd ag arbenigedd mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (SEMH) cymhleth, yn ogystal â dealltwriaeth gref o ddiogelu, polisïau presenoldeb, a strategaethau cynhwysiant. Byddwch yn ymarferydd cydweithredol gyda phrofiad helaeth mewn cynhwysiant addysg ynghyd â'r profiad cysylltiedig mewn ymarfer ADY cadarnhaol a chynhwysol i gefnogi dysgwyr. Byddwch yn gallu dangos tystiolaeth o sut mae eich gwaith cynhwysiant wedi gwella canlyniadau i ddysgwyr mewn lleoliadau addysg.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm cynhwysiant cefnogol a thalentog yn yr Awdurdod. Bydd y cylch gwaith yn cynnwys datblygu ein cynnig cynhwysiant. Bydd y Swyddog Datblygu Cynhwysiant Addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ymgysylltiad dysgwyr mewn addysg er mwyn sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad at yr addysg a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Rydym yn ymfalchïo yn ein bod yn gyflogwr rhagorol gyda diwylliant tîm cryf. Mae ein gwerthoedd - gofalu am yr hyn a wnawn, bod yn deg, yn arloesol, ac yn chwaraewyr tîm gwych - yn arwain popeth a wnawn. Rydym yn parhau i foderneiddio, chwilio am gyfleoedd newydd, ac ymateb yn rhagweithiol i'r heriau a wynebwn.

Rydym yn awdurdod dwyieithog gyda balchder mawr yn ein treftadaeth Gymreig, wedi'i gefnogi gan gynnig dysgu a chyfieithu iaith Gymraeg gwych. Rydym yn chwilio am ymarferydd profiadol a fydd yn ffynnu o fewn diwylliant sy'n canolbwyntio ar gynhwysiant, ysbrydoli timau, a gyrru newid ystyrlon, sy'n canolbwyntio ar bobl, ymlaen.

Gobeithiwn eich bod yr un mor frwdfrydig am y cyfle hwn ag yr ydym ni, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

Mae'l hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Scott Fordwhalley, Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol y Gwasanaeth Gwella Addysg, 01492 575192, Scott.fordwhalley@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.