MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Gwernyfed,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn £15.56 i £16.61 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 26 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn £15.56 i £16.61 yr awr
Swyddog Cyswllt â Theuluoedd (Addysg)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Mae Swyddogion Cyswllt Teuluoedd yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd, mewn partneriaeth ag ysgolion, yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac o safon. Mae hyn yn cynnwys gwella hyder a sgiliau rhieni, cefnogi teuluoedd i gynyddu presenoldeb, a datblygu rhaglenni sy'n cefnogi dysgwyr agored i niwed a'u teuluoedd i fyw bywyd iach a boddhaus.
Amdanoch chi:
- Hyder a phrofiad o ymgysylltu â dysgwyr a'u teuluoedd
- Y gallu i sefydlu a chynnal perthnasoedd adeiladol gyda theuluoedd a chydymdeimlo â'u hanghenion
- Y gallu i ysgogi teuluoedd i fynd i'r afael â'r anawsterau y gallent eu hwynebu
- Y gallu i ddatblygu cysylltiadau agos a gweithio'n effeithiol gyda staff (o'r ysgol, asiantaethau a sefydliadau eraill)
- Y gallu i fod yn ddyfeisgar a gallu datrys problemau
* Sicrhau dull brwdfrydig o gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd
* Ymateb yn effeithiol i anghenion sy'n newid
* Defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i feithrin perthnasoedd â theuluoedd ac ysgolion
* Cefnogi teuluoedd i ymgysylltu â bywyd ysgol
* Cysylltu ag ystod eang o bartneriaid ac asiantaethau allanol
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
Sarah Quibell
01597 827394
sarah.quibell@powys.gov.uk
Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon