MANYLION.
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Cymraeg (Ail Iaith), Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd - Addysgu i safon uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae'r swydd hon yn swydd gyflenwi a delir fesul yr awr yn y lle cyntaf gyda'r potensial am oriau cyflenwi tymor hir yn y dyfodol.

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd Addysg Uwch i gyflwyno cwrs Lefel A Cymraeg (2il Iaith).

Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa ym maes y diwydiant Busnes.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/179/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau pro rata gyda thâl ym mhob blwyddyn academaidd (sef y cyfnod rhwng 1 Medi a 31 Awst). Mae hyn yn cynnwys hawl pro rata i Wyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus traddodiadol Cymru (8 diwrnod) a hawl pro rata i 5 diwrnod effeithlonrwydd (noder y gall hyn newid yn bob blwyddyn). Caiff gwyliau blynyddol ei gyfrifo ar sail cyfran pro rata o'r hawl llawn amser o 46 awr sy'n gynwysedig yn y gyfradd a delir fesul awr.

Patrwm gweithio
4.5 awr yr wythnos

Patrwm Gwaith - Dydd Mawrth - i'w gadarnhau

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn ddibynnol ar feini prawf y pwnc) yn cael ei ychwanegu i'r oriau a weithir i adlewyrchu'r gwaith paratoi a marcio.

38 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
21 Ebr 2026
12:00 YH(Ganol dydd)