MANYLION.
  • Lleoliad: Llanfair Caereinion,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 26 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Mathemateg (Ysgol Bro Caereinion)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro / Athrawes Mathemateg (Ysgol Bro Caereinion)
Swydd-ddisgrifiad
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Athro / Athrawes Mathemateg a Rhifedd

gyda opsiwn o CAD cydlynydd rhifedd (CAD2A)

Llawn amser a pharhaol

Ar gyfer ysgol pob oed

YSGOL BRO CAEREINION

Ei hangen ar gyfer 1 af o Fedi 2026

Teacher of Mathematics and Numeracy at Ysgol Bro Caereinion and the option of Numeracy Co-ordinator (TLR 2A)

This is a role where the ability to read, write and speak in Welsh (Common European Framework of Reference (CEFR) C levels: Proficient user) is essential.

Link WG Language competency framework for education practitioners

CYNNWYS
  • Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Corff Llywodraethol a'r Pennaeth
  • Swydd ddisgrifiad
  • Manyleb person

  • YSGOL BRO CAEREINION

    Athro / Athrawes Mathemateg a Rhifedd

    Prif raddfa cyflog

    (Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn)

    A'r opsiwn (pe dymunir) ar gyfer swydd Cydlynydd Rhifedd

    CAD2A

    (Cyfateb i £3,626 y flwyddyn)

    Mawrth 2026

    Annwyl Ymgeisydd

    Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi athro / athrawes mathemateg a rhifedd ymroddedig i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig o staff sydd yn ymroi'n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad disgyblion o fewn ysgol arbennig sydd ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.

    Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'.

    Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd yn:
    • meddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
    • athro ysbrydoledig sydd yn gallu dod âr sgiliau mathemategol yn fyw i'r disgyblion trwy brofiadau dysgu cyfoethog, ystyrlon ac ymarferol
    • datblygu sgiliau meddwl mathemategol disgyblion
    • cyfrannu'n gadarnhaol at wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
    • gallu gweithio mewn tîm yn effeithiol
    • ymrwymedig i ddatblygu'r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda'r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
    • bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg
    Os yn mynd am y cyfrifoldeb Cydlynydd Rhifedd:
    • sgiliau cynllunio strategol i ddatblygu profiadau a medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran
    • sgiliau arweinyddiaeth cadarn i fonitro darpariaeth a chynnydd disgyblion ar draws yr ysgol
    • meithrin cymhwysedd rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran
    • cefnogi MDaPh eraill i gynllunio profiadau rhifedd pwrpasol
    • mapio profiadau medrau rhifedd disgyblion ar draws yr ysgol
    Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol pob oed, 5 - 18 mlwydd oed. Mae'n symud ar hyd y continwwm ieithyddol ac ym mis Medi 2026 mi fydd hi'n Ysgol cyfrwng Cymraeg trawsnewidiol ar gyfer y dosbarth derbyn, Blwyddyn 1, 2 a 7. Darparir gwersi mathemateg cyfrwng Cymraeg hyd at flwyddyn 10, ond y bwriad gydag amser a'r ymgeisydd cywir, yw i ddarparu mathemateg hyd at y chweched dosbarth.

    Mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).

    Mae cyfle hefyd, pe dymunir (plîs nodwch yn eich llythyr cais), i hefyd cymryd y cyfrifoldeb o gydlynu'r medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran (o dysgu sylfaen hyd at flwyddyn 11).

    Gweler y disgrifiad swydd a'r fanyleb person isod. Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld âr ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais.

    Yn gywir

    Myfanwy Alexander Anwen Orrells

    Cadeirydd y Llywodraethwyr Pennaeth

    Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac yn destun Datgeliad DBS