MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanrhaeadr-ym-Mochnant,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPS/UPS
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPS/UPS
Athro/Athrawes (Ysgol Gynradd Llanrhaeadr ym Mochnant)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
ATHRO/ATHRAWES 0.6 (3 diwrnod yr wythnos)
Llawn amser am gyfnod penodol o flwyddyn yn y lle cyntaf gyda phosibilrwydd o
estyniad
Angen ar gyfer Medi 1af 2026
Ysgol dwy ffrwd yw Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant sydd wedi ei lleoli yng nghanol
Dyffryn Tanat ym mhentref hanesyddol Llanrhaeadr ym Mochnant. Mae'r ysgol wedi ei
adeiladu ar werthoedd cymunedol, uchelgeisiol a theg sydd yn annog creadigrwydd,
iechyd, hyder a chydweithio. Mae staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni, ynghyd, yn
gweithio tuag at yr un nod, i ddarparu addysg safonol sydd llawn cyfleoedd a phrofiadau
ar gyfer ein disgyblion.
Yn Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, rydym yn gwneud y mwyaf o'r tirwedd naturiol a
lleol sydd yn ein cwmpasu. Mae'r Pistyll Rhaeadr, sef un o saith ryfeddod Cymru, yn
ganolbwynt i'n gweledigaeth "Llwybrau Llwyddiant yn Llifo yn Llan" ac rydym yn falch
iawn o'n treftadaeth Gymreig. Mae'r amgylchedd dysgu yn darparu her briodol i bawb o
fewn safle diogel a chynaliadwy, ac rydym yn ymfalchïo ar ein safon uchel o ymddygiad.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes sydd yn ymarferydd rhagorol, â disgwyliadau uchel, yn
aelod ymroddedig o dîm, yn frwd dros wneud gwahaniaeth i'r plentyn cyfan, ac yn barod i
ddangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Yn gyfnewid gallwn gynnig i chi tîm ymroddgar o staff a llywodraethwyr, disgyblion cyfeillgar
a brwdfrydig, amgylchedd dysgu gofalgar gydag adnoddau rhagorol, partneriaeth gref gyda
rhanddeiliaid, cyfleoedd datblygu proffesiynol barhaus.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal gwiriad datgelu a gwahardd.
Mae'r ysgol wedi cael arolwg llwyddiannus gan Estyn ym mis Mehefin 2022 ac ymweliad
interim llwyddiannus ym mis Mawrth 2025.
I drafod y swydd ymhellach, cysylltwch gyda Pennaeth, Miss Sioned Morris
head@llanrhaeadr.powys.sch.uk / (01691) 780352
Dyddiad cau: 12/04/2026
Creu rhestr fer - 13/04/2026
Cyfweliadau - 21/04/2026