MANYLION.
  • Lleoliad: Llanidloes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth: Pwyntiau 16 i 20
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Dysgu a Sgiliau (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth: Pwyntiau 16 i 20

Dirprwy Bennaeth - Dysgu a Sgiliau (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Pecyn Swydd

Dirprwy Bennaeth: Dysgu a Sgiliau

Graddfa Arweinyddiaeth: Pwyntiau 16 i 20

Dyddiad cau: 9yp, Dydd Gwener 17 Ebrill 2026

Ysgol Uwchradd Llanidloes

Angen ar gyfer Medi 2026 (neu'n gynharach drwy gytundeb)

Dirprwy Bennaeth: Dysgu a Sgiliau

(Arweinyddiaeth 16-20)

Os ydych yn arweinydd presennol â phwrpas moesol a brwdfrydedd dros wneud gwahaniaeth, gallai hon fod yn rôl berffaith i chi. Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi arweinydd ymroddgar, brwdfrydig, penderfynol ac arloesol i ymuno â'r ysgol mewn cyfnod o newid ac esgor ar welliannau pwysig.
  • Yn fodel rôl rhagorol ac yn effeithiol wrth arwain, cymell a chefnogi tîm.
  • Âr gallu i yrru safonau, arwain dysgu ac addysgu, gan sicrhau cyfleoedd dysgu cyffrous, creadigol, heriol ac ymhoddol i bob disgybl.
  • Yn deall sut i ddarparu profiadau dysgu dilys sy'n datblygu prif sgiliau dysgu.
  • Â phrofiad fel ymarferydd creadigol ac ysbrydoledig gydag ymrwymiad i safonau uchel.
  • Yn aelod tîm rhagorol, yn gallu gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr uwch eraill yn yr ysgol.
  • Â phrofiad o reoli gweithrediadau o ddydd i ddydd ysgol.
  • Â gwydnwch, egni, hyblygrwydd a brwdfrydedd, ac yn ddiflino yn eu hymdrech i wella eu hunain a'r rhai o'u cwmpas.
  • Â sgiliau arweinyddiaeth hynod effeithiol ac sy'n cydnabod pwysigrwydd atebolrwydd.
  • Yn gallu cofleidio a rheoli newid a gweithio gyda phartneriaid cymunedol, gan gynnwys adeiladu cysylltiadau pwysig â rhieni ac ysgolion y clwstwr.

Os hoffech drefnu ymweliad âr ysgol a sgwrs anffurfiol gyda'r Pennaeth, anfonwch e-bost at Sue Bound - s.bound@llanidloes-hs.powys.sch.uk

Gofynnir i bob ymgeisydd gwblhau'r ffurflen gais a nodi sut mae'ch sgiliau, eich profiad a'ch rhinweddau yn eich gwneud yn berson delfrydol i ymuno âr ysgol.

Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac yn disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn.

Gofyniad DBS: Gwiriad Manylach (Enhanced)