MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPR/UPR
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPR/UPR
Ynglŷn â'r RôlMamolaeth i ddechrau o Fedi 2026 neu'n gynharach os yw hynny'n bosibl.
3 diwrnod, dydd Llun, Mawrth, Mercher.
Gwybodaeth am Y Dyniaethau yn yr ysgol
Caiff dyniaethau ei ddysgu fel un pwnc ym mlynyddoedd 7 ac 8. Maent yn gweithio ar unedau sy'n datblygu sgiliau allweddol y maes, fel ymholi, gwerthuso, dadansoddi a myfyrio. Mae ambell uned yn cyfuno'r dyniaethau tra bod eraill yn canolbwyntio ar ddisgyblaethau penodol. Ym mlwyddyn 9, mae Addysg Grefyddol, Hanes a Daearyddiaeth yn cael eu dysgu ar wahan. Mae 8 athro yn dysgu'r dyniaethau. Mae pennaeth Addysg Grefyddol, Hanes a Daearyddiaeth ar wahan ac mae'r Pennaeth Daearyddiaeth, Mr Ynyr Jeffreys-Evans, hefyd yn bennaeth ar y dyniaethau.
Prif ddyletswydd Athro / Athrawes dyniaethau yw addysgu'r dyniaethau i flynyddoedd 7 ac 8. Byddai'r gallu i gyfrannu at ddysgu Addysg Grefyddol, Hanes neu Ddaearyddiaeth i flwyddyn 9 yn ddymunol a / neu'r gallu i ddysgu Cymraeg i flynyddoedd 7 ac 8.
Penodir yn unol ag amodau cyflogaeth cyfredol athrawon ysgol sydd wedi'u cynnwys yn Nogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, a'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon (Cymru).
Dysgu ac Addysgu
• Cynllunio ac addysgu gwersi i'r dosbarthiadau dan eu gofal yn unol a chynlluniau gwaith adrannol a pholisïau ysgol gyfan
• Asesu, monitro, cofnodi ac adrodd ar anghenion dysgu, cynnydd a chyflawniadau disgyblion penodedig.
• Cynnig arweiniad i gymorthyddion yn y gwersi.
Cyfrifoldebau Ysgol Gyfan
• Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a chynlluniau'r ysgol.
• Gweithio gydag eraill ar ddatblygiad y cwricwlwm, yn benodol felly Cwricwlwm i Gymru
• Cydweithio i sicrhau lles a llwyddiant pob disgybl yn yr ysgol.
Iechyd a Diogelwch
• Hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion.
• Cynnal trefn a disgyblaeth dda ymhlith disgyblion.
Datblygiad Proffesiynol
• Cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer gwerthuso ac adolygu eu perfformiad eu hunain a, lle bo hynny'n briodol, perfformiad athrawon a staff cymorth eraill gan gynnwys sefydlu.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant ysgol gyfan yn unol a chalendr yr ysgol
Cyfathrebu a chydweithio
• Cyfathrebu â disgyblion, rhieni a gofalwyr.
• Cydweithio a gweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt.
Er y cymerir pob gofal i egluro prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, ni fydd pob tasg unigol wedi ei rhestru. Disgwylir i staff gytuno i gais rhesymol gan reolwyr i ymgymryd â thasg o lefel gyfatebol sydd heb ei rhestru yn y swydd ddisgrifiad hwn.
Amdanom Ni
Gwybodaeth am yr Ysgol
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae tua 950 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 75 yn y chweched dosbarth.
Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.
Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.