MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPR/UPR
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPR/UPR
Ynglŷn â'r RôlAthro / Athrawes ADY, Uned Camau I dechrau mis Medi 2026.
Dyddiad Cau 21/4/2026
Gwybodaeth am Uned Camau
Mae Uned Camau yn uned hynod werthfawr yn yr ysgol. Mae'n darparu cefnogaeth i ddisgyblion a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol o flwyddyn 7 i flwyddyn 11. Mae rhai disgyblion yn treulio y rhan fwyaf o'u hamser yn yr uned tra bod eraill yn treulio rhai gwersi'n unig yno ac yn mynd i wersi prif ffrwd am weddil yr amserlen. Ar hyn o bryd, mae un athrawes lawn amser yn Camau, Miss Lois Roberts, ond oherwydd cynnydd yn y nifer y disgyblion sydd ag ADY, mae angen athro/ athrawes arall arnom. Miss Katie Roberts yw Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Adran a hi sydd a gofal dros Uned Camau. Mae'r gofal a'r addysg a ddarperir yn Camau o safon ardderchog a chawsant ganmoliaeth uchel yn adroddiad diweddaraf Estyn ar yr ysgol.
Mae Camau wedi'i leol ar ail lawr yr ysgol: Mae un ystafell fawr, ystafell synhwyrau, swyddfa ac ambell ystafell fach arall yn rhan o'r uned. Mae llawer o adnoddau ar gael yr adran.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif ddyletswydd Athro / Athrawes ADY yw paratoi ac addysgu gwaith addas i'n disgyblion ADY. Gall hyn gynnwys disgyblion o wahanol flynyddoedd dysgu. Mae'r gwaith yn ymestyn dros sawl maes addysgu ond yn canolbwyntio'n bennaf ar feithrin sgiliau rhif a llythrennedd. Bydd yn dysgu'n bennaf o fewn adnodd Camau, ond mae hyblygrwydd i ddysgu ambell wers brif ffrwd hefyd yn unol a dymuniad a gallu'r ymgeisydd.
Penodir yn unol ag amodau cyflogaeth cyfredol athrawon ysgol sydd wedi'u cynnwys yn Nogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, a'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon (Cymru).
Dysgu ac Addysgu
• Cynllunio ac addysgu gwersi i'r disgyblion dan eu gofal yn unol a manylebau CBAC, cynlluniau gwaith adran a pholisïau ysgol gyfan.
• Asesu, monitro, cofnodi ac adrodd ar anghenion dysgu, cynnydd a chyflawniadau disgyblion penodedig.
• Cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol.
• Paratoi dysgu cyfunol a dysgu o bell yn ôl yr angen.
• Cynnig arweiniad i gymorthyddion
• Cyfrannu at lunio Cynlluniau Datblygu Unigol disgyblion Camau a threfnu adolygiadau ohonynt.
Cyfrifoldebau Ysgol Gyfan
• Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a chynlluniau'r ysgol.
• Gweithio gydag eraill ar ddatblygiad y cwricwlwm, yn benodol felly Cwricwlwm i Gymru
• Cydweithio i sicrhau lles a llwyddiant pob disgybl yn yr ysgol.
Cynorthwyo gyda threfniadau Anwytho a Throsglwyddo disgyblion blwyddyn 6
Iechyd a Diogelwch
• Hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion.
• Cynnal trefn a disgyblaeth dda ymhlith disgyblion.
Datblygiad Proffesiynol
• Cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer gwerthuso ac adolygu eu perfformiad eu hunain a, lle bo hynny'n briodol, perfformiad athrawon a staff cymorth eraill gan gynnwys sefydlu.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant ysgol gyfan yn unol a chalendr yr ysgol
Cyfathrebu a chydweithio
• Cyfathrebu â disgyblion, rhieni a gofalwyr.
• Cydweithio a gweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt gan gynnwys cymorthyddion dosbarth.
Er y cymerir pob gofal i egluro prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, ni fydd pob tasg unigol wedi ei rhestru. Disgwylir i staff gytuno i gais rhesymol gan reolwyr i ymgymryd â thasg o lefel gyfatebol sydd heb ei rhestru yn y swydd ddisgrifiad hwn.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Gwybodaeth am yr Ysgol
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae tua 950 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 70 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.
Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.
Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.