MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £25,397 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arbenigwr Dysgu Cadarnhaol Dan Hyfforddiant- Ysgol Pendalar

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £25,397 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION ADDYSG ARBENNIG

YSGOL PENDALAR, CAERNARFON

(Arbennig 3 - 19: 121 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi, 2026.
ARBENIGWR DYSGU CADARNHAOL DAN HYFFORDDIANT(SWYDD DROS DRO - HYD AT 31/08/2027 YN Y LLE CYNTAF)

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol a'r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd uchod.

Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan arweiniol o fewn yr ysgol mewn ymateb i anghenion disgyblion sydd angen cymorth arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Bydd yr unigolyn yn defnyddio ymyriadau yn seiliedig ar Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (Applied Behaviour Analysis) er mwyn dysgu a chynyddu ymddygiadau cymdeithasol priodol a lleihau ymddygiadau cymdeithasol amrhiodol.

Mae'r swydd ar gyfer unigolion sydd yn cyrraedd safonau Behaviour Analyst Certification Board (BACB) neu yn gweithio tuag at y cymhwyster.

Oriau gwaith: 34.25 awr yr wythnos.

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £22,994 - £25,397 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn fanteisiol ond ddim yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Deiniol Harries (Rhif Ffôn 01286 672141)

e-bost: Deiniol.harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Busnes, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd (Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 20 o EBRILL, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a Temporary Positive Learning Specialist Under Training at Ysgol Pendalar, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is an advantage but not essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person
MANYLEB PERSONProfiad
  • Profiad o weithio gyda phlant o'r oedran briodol gan ddefnyddio dulliau dadnsoddi ymddygiad cymwhysol.
  • Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.
Cymwysterau
  • Cyfarfod â safonau Behaviour Analyst Certification Board (BACB) neu gweithio tuag at y cymhwyster.
Gwybodaeth/Sgiliau
  • Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/côd ymarfer/cod BACB/deddfwriaeth berthnasol.
  • Gwybodaeth weithio o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhaglenni dysgu perthnasol eraill megis VB-MAPP ac ABLLS-R.
  • Deall egwyddorion datblygiad plentyn a'r broses ddysgu ac, yn arbennig, rwystrau i ddysgu.
  • Y gallu i gynllunio gweithredu effeithlon ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni.
  • Deall ystod y gwasanaethau/darparwyr cynhaliaeth.
  • Y gallu i hunan-werthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu.
  • Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
  • Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.

Swydd Ddisgrifiad

DISGRIFIAD SWYDD

SWYDD: Arbenigwr Dysgu Cadarnhaol dan hyfforddiant

YSTOD CYFLOG: 12-17

YN ATEBOL I: Mr Deiniol Harries

PWRPAS SWYDD
O dan gyfundrefn gytunedig o oruchwyliaeth, cymryd rhan arweiniol o fewn yr ysgol mewn ymateb i anghenion disgyblion sydd angen cymorth arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Bydd yr unigolyn yn defnyddio ymyriadau yn seiliedig ar Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (Applied behaviour Analysis) er mwyn dysgu a cynyddu ymddygiadau cymdeithasol priodol a lleihau ymddygiadau cymdeithasol amrhiodol o dan oruchwyliaeth BCBA .

PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion Cyfnod Sylfaenol
  • Cynorthwyo'r Arbenigwr Dysgu Cadarnhaol i ymgymryd ag asesiadau yn seiliedig ar VB-MAPP (Verbal Behaviour Milestones Assessment and Placement Program) ac ABLLS-R (Assessment of Basic Language and Learning Skills) er mwyn dysgu sgiliau iaith, cymdeithsaol, hunan-gymorth, academaidd ac echddygol hanfodol drwy ddulliau Hyfforddaint Profion Arwahanol (DTT).
  • Y gallu i wneud DTT yn rhugl a rhoi hyfforddiant yn y foment i staff dosbarth.
  • Cynorthwyo a hyfforddi staff dosbarth ar ddatblygu sgiliau Hyfforddiant Amgylchedd Naturiol (Natural Environment Training, NET).

Cefnogaeth i Ddisgyblion Ysgol Gyfan

  • Cynorthwyo'r staff dosbarth i ddilyn cynlluniau datblygiad hunan-gymorth (e.e. toiled, bwyta, dad-wisgo, brwsho dannedd) gan ddefnyddio technegau dadansoddi ymddygiad cymhwysol e.e. Task Analysis, Active Support.
  • Cynorthwyo'r staff dosbarth gyda dilyn cynlluniau wedi ei selio ar ddadansoddi ymddygiad e.e. Addysgu Uniongyrchol (Direct Instruction, DI).
  • Cynorthwyo'r staff dosbarth i ddilyn cynlluniau ymddygiad a rhoi hyfforddiant yn y foment i staff dosbarth.
  • Cynorthwyo'r staff dosbarth i ddefnyddio systemau cyfathrebu swyddogaethol e.e. PECS, PODD, Grid 3, AAC, Makaton a.y.y.b.
  • Cymryd data er mwyn cymryd gwaelodlin ar ymddygiad targed, ffyddlondeb at gynlluniau ymddygiad, ac ar ymyriadau sydd wedi eu gosod.
  • Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda disgyblion, a gwneud asesiad dewis ysgogiad (stimulus preferences assessment) i sefydlu pa ysgogiadau sy'n cael eu ffafrio gan fyfyriwr ar un achlysur, i'w ddefnyddio fel atgyfnerthwr i gynyddu ymddygiadau priodol.
  • Derbyn goruchwyliaeth gan BCBA (Board Certified Behaviour Analyst) er mwyn sichrau arfer moesegol ac effeithiol er mwyn gallu cyflwyno'r ymyriadau gorau, mwyaf diweddar.
Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau perthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, gan adrodd am bob pryder i'r person priodol.
  • Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a'u cefnogi, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Adnabod hunan gryfderau a meysydd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
  • Bod yn gyfrifol am ddarparu gweithgareddau dysgu y tu allan i'r ysgol o fewn canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
  • Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i'r ysgol sy'n cadarnhau ac ymestyn gwaith yn yr ysgol.
  • Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel bo'r gofyn.
Cyfrifoldebau Rheoli Llinell Lle bo'n Briodol

  • Rheoli cymorthyddion addysgu eraill.
  • Bod yn gyswllt rhwng y rheolwr/yr athrawon a'r cymorthyddion addysgu.
  • Ymgymryd â recriwtio/anwytho/gwerthuso/hyfforddi/mentora cymorthyddion addysgu eraill.
  • Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda staff a reolir.
  • Cynrychioli cymorthyddion addysgu mewn cyfarfodydd staff addysgu/rheoli/ priodol arall.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi