MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfyllin,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Blank
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Blank
Athro/Athrawes (Ysgol Llanfyllin)Swydd-ddisgrifiad
Hysbyseb Swydd: Athro/Athrawes CA2 (Cyfnod Allweddol 2)
Lleoliad: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 24 Ebrill
Mae Ysgol Llanfyllin yn chwilio am athro neu athrawes CA2 angerddol, greadigol ac ysbrydoledig
i ymuno â'n tîm ymroddedig. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i ysbrydoli dysgwyr ac i
ddarparu addysgu o ansawdd uchel sy'n cefnogi cynnydd a lles pob disgybl.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Croesawn geisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon ar ddechrau eu gyrfa sy'n ymrwymedig i
sicrhau safonau uchel ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr. Ceir croeso
cynnes i geisiadau amser llawn neu ran-amser.
Wedi'i lleoli mewn ardal wledig brydferth ger ffin Swydd Amwythig, mae Ysgol Llanfyllin yn ysgol
bob oed lwyddiannus i ddisgyblion 3 i 18 oed. Rydym yn falch o'n safonau uchel, ein hegwyddor
gynhwysol 'Teulu', a'n hymdeimlad cryf o gymuned.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn gallu:
• Ysbrydoli a denu dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2
• Darparu addysgu o ansawdd uchel, creadigol ac arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg
• Defnyddio asesu a data yn effeithiol i gefnogi cynnydd disgyblion
• Ffurfio amgylchedd dosbarth cadarnhaol, diogel a chynhwysol
• Gosod disgwyliadau uchel a hyrwyddo potensial pob disgybl
• Cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol
• Weithio'n effeithiol fel rhan o dîm cydweithredol a chefnogol
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:
• Cymuned ysgol groesawgar ac arloesol
• Cyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
• Amgylchedd dysgu modern a chyfoes
• Lleoliad bendigedig gyda chydbwysedd bywyd a gwaith rhagorol
Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol brwdfrydig ac uchelgeisiol sy'n chwilio am her newydd mewn
ysgol gefnogol ac ysbrydoledig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: office@llanfyllin.powys.sch.uk
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01691 648391
Mae Ysgol Llanfyllin wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae pob
penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach.