MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfyllin,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Blank
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes / Cyfarwyddwr Dysgu - Technoleg (Ysgol Llanfyllin)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Blank
Athro/Athrawes / Cyfarwyddwr Dysgu - Technoleg (Ysgol Llanfyllin)Swydd-ddisgrifiad
Hysbyseb Swydd: Athro/Athrawes / Cyfarwyddwr Dysgu - Technoleg
Swydd: Athro/Athrawes Technoleg (gyda'r posibilrwydd o arwain Maes Dysgu a Phrofiad)
Lleoliad: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 20 Ebrill 2026
Mae Ysgol Llanfyllin yn chwilio am athro/athrawes a leader dawnus, brwdfrydig i ymuno â'n tîm
ymroddedig. Croesawn geisiadau gan athrawon ac arweinwyr posibl sy'n ymrwymedig i ddarparu
addysg o ansawdd uchel ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau dysgwyr.
Croesewir ceisiadau amser llawn ac/neu ran-amser yn gynnes.
Wedi'i lleoli mewn ardal wledig brydferth ger ffin Swydd Amwythig, mae Ysgol Llanfyllin yn ysgol bob
oed lwyddiannus i ddisgyblion 3 i 18 oed. Rydym yn falch o'n safonau uchel, ein hegwyddor
gynhwysol 'Teulu', a'n hymdeimlad cryf o gymuned. Gyda chysylltiadau rhagorol âr Trallwng,
Croesoswallt a'r ardaloedd cyfagos, mae'r ysgol yn cynnig cydbwysedd delfrydol rhwng tawelwch
cefn gwlad a hygyrchedd i gyfleusterau lleol.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hynod ddymunol, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y
swydd hon.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn gallu:
• Ysbrydoli a denu dysgwyr ar draws holl gyfnodau ein hysgol bob oed
• Arwain tîm ymroddedig o gydweithwyr yn Maes Dysgu a Phrofiad Technoleg
• Darparu addysgu ac addysg o ansawdd uchel ac arloesol
• Meithrin amgylchedd dosbarth cadarnhaol a chynhwysol
• Cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol
• Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm cydweithredol a chefnogol
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:
• Cymuned ysgol groesawgar ac arloesol
• Cyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad proffesiynol
• Amgylchedd dysgu modern, wedi'i gyfarparu'n dda
• Lleoliad bendigedig gyda photensial ardderchog ar gyfer cydbwysedd bywyd a Gwaith
•
Os ydych yn weithiwr proffesiynol cymhellol yn chwilio am her newydd mewn amgylchedd cefnogol
a dyheadol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: office@llanfyllin.powys.sch.uk
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01691 648391.
Mae Ysgol Llanfyllin wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae pob
penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach.