MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes Gwyddoniaeth Dros Dro - Ysgol John Bright
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Ysgol John BrightAthro/Athrawes Gwyddoniaeth Dros Dro
Rhan amser(0.6) swyddDros Dro hydat 31/08/2027
URG/PRG Cychwyn ymmis Medi 2026
Y dyddiad cau a'r terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw canol nos, DyddMawrth 21ain Ebrill 2026
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi athro dosbarth ysbrydoledig sy'n gallu ennyn diddordeb myfyrwyr gyda'u hangerdd am Wyddoniaeth. Byddai Cemeg neu Ffiseg yn ddelfrydol, ond rydym un croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chefndir mewn disgyblaethau eraill. Rydym yn chwilio am rywun sy'n frwd dros gefnogi pobl ifanc i ddatblygu cariad at y pwnc. Mae Ysgol John Bright yn ysgol gynhwysol, ofalgar, mae gan y myfyrwyr agwedd gadarnhaol at ddysgu ac rydym yn ymfalchio yn ein gallu i herio cefnogi a datblygu staff a myfyrwyr.
Bydd gennych ddisgwyliadau uchel, y gallu i ysbrydoli, chwerthin a mwynhyau heriau'r rôl. Bydd gennych wybodaeth ragorol am y pwnc ac awydd i weld pob myfyriwr yn ffynnu ac yn datblygu yn eich gwersi. Croesewir ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso.
BYDDWCH CHI'N :
- Credu'n angerddol ym mhotensial pob myfyriwr, ac yn ymroi'ch hun i sicrhau bod pob myfyriwr yn llwyddo
- Athro â chymwysterau da ac uchel eu cymhelliant sy'n gallu cyflwyno gwersi difyr a sicrhau canlyniadau cryf
- Gallu gweithio gyda chydweithwyr i gael effaith ar gynnydd myfyrwyr a datblygu cwricwlwm cyfoethog
- Creadigol gydag ymagwedd ddychmygus at addysgu a dysgu
- Rhywun sydd â disgwyliadau uchel, gyda'r gallu i herio'ch myfyrwyr a meddwl yn feirniadol am eich ymarfer eich hun
- Ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus sy'n arwain at wybodaeth bynciol ac addysgu rhagorol.
- Cyfleoedd rhagorol i ddatblygu'ch gyrfa a mynediad i raglen gynhwysfawr o ddysgu a datblygiad proffesiynol
- Y cyfle i fod yn feiddgar ac arloesol yn eich arweinyddiaeth
- Ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer myfyrwyr a staff
- Amgylchedd gwaith sy'n broffesiynol ysgogol a chefnogol
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad a dilyniant proffesiynol ar gyfer yr holl staff
- Cyfleusterau o'r radd flaenaf mewn adeilad ac ar safle deniadol a modern
- Dull arweinyddiaeth sy'n blaenoriaethu lles a llwyth gwaith staff
- Ethos 'ffenestr ar y byd' sy'n cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr
Mae Ysgol John Bright wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod pob aelod o staff yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manwl ar gyfer pob swydd. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
This form is also available in English