MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £99,824 - £115,635
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Morgan Llwyd

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £99,824 - £115,635

Ynglŷn â'r Rôl
Ysgol Morgan Llwyd
'Ym mhob llafur y mae elw'

Llawn Amser
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y swydd o Bennaeth.
Wrth dyfu o ran niferoedd disgyblion, mae'r ysgol hon ar lwybr i fod yn ysgol ragorol sy'n darparu addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl. Rydym yn chwilio am arweinydd a fydd yn gweithio'n effeithiol ac yn gydweithredol gyda phob rhanddeiliad i adeiladu ar gryfderau'r ysgol a symud ymlaen tuag at ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus.
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch a chroesawgar sy'n angerddol ynghylch gallu pob unigolyn i gyrraedd eu potensial a'u huchelgais, ac i ddatblygu'n aelodau hapus, hyderus, annibynnol ac atebol o'r gymdeithas.
Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig sydd â gwir awydd i wneud gwahaniaeth i addysg disgyblion cyfrwng Cymraeg Wrecsam ac i weithio'n agored, yn gynhwysol ac yn gydweithredol gyda'r Awdurdod Lleol a'r Bartneriaeth Ranbarthol.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n:
Dangos angerdd ac ymrwymiad i Addysg Cyfrwng Cymraeg i bob disgybl - disgyblion cyfrwng Cymraeg a disgyblion sy'n dymuno cael mynediad drwy'r cynllun trochi.
Uchelgeisiol, gyda hanes o yrru gwelliant drwy arloesi.
Dangos sgiliau arweinyddiaeth cryf.
Arddangos arloesedd a chreadigrwydd wrth gyflwyno safonau academaidd rhagorol.
Ymroddedig i fywyd llawn yr ysgol a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, ac yn gallu creu amgylchedd addysgol sy'n ysgogi, cefnogi a meithrin disgyblion.
Meddu ar ddealltwriaeth ddofn o'n gweledigaeth a'n gwerthoedd, ac ymrwymiad iddynt.
Bod yn unigolyn ysbrydoledig gyda'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Pennaeth (NPQH) ac yn gallu dangos ysgogiad, brwdfrydedd a sgiliau arweinyddiaeth profedig.
Os ydych yn arweinydd cryf ac ysbrydoledig ac os oes gennych weledigaeth argyhoeddiadol ar sut i barhau i godi safonau ymhellach, rydym yn croesawu eich cais.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ac i'r NPQH.
I drefnu ymweliad, neu i gael mwy o wybodaeth cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r ysgol.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, credoau crefyddol neu oedran.
Mae angen gwiriad DBS ar gyfer y swydd hon.
(Hysbyseb yw hon ar gyfer swydd Pennaeth yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, lle mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.)
Amdanom Ni
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae 883 o ddisgyblion ar ein cofrestr ac 92 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

Ysgol Morgan Llwyd is a Welsh medium secondary school located in the city of Wrexham that serves a wide catchment area in Wrexham. The school opened its doors in 1964 with a small group of pupils, and since then, it has gone from strength to strength. In the year 2000, the school moved to a new location. We now have 883 pupils on roll and 92 attending our sixth form. Our pupils come from the city itself, the neighbouring villages and from rural areas in the Ceiriog Valley. Ysgol Morgan Llwyd is the only Welsh medium secondary school in the county and one of only two with a Sixth Form. We take pride in our tradition of our pupils' academic success as well as their successes in the school's extracurricular life. Our vision is to ensure that Ysgol Morgan Llwyd is a caring school that develops high-achieving and capable learners, in an environment where everybody is happy, safe, and eager to learn.